Dyfarnu €4M i wella sgiliau yn y diwydiant dur
5 Hydref 2018
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael y dasg o ddatblygu strategaethau hyfforddiant a sgiliau i wneud yn siŵr bod y diwydiant dur yn Ewrop yn parhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang am flynyddoedd i ddod.
Mae Agenda Sector Dur Ewrop (ESSA), sydd wedi cael €4m, yn cael ei rheoli ar y cyd gan Dr Dean Stroud o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, mewn partneriaeth â Phrifysgol Dechnegol Dortmund. Bydd y prosiect yn cynnwys consortiwm o 24 o sefydliadau o 10 gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â saith partner cysylltiedig ychwanegol o wledydd sy'n aelod-wladwriaethau. Mae'r rhain yn cynnwys cwmnïau dur, darparwyr addysg a hyfforddiant, cymdeithasau dur a phartneriaid cymdeithasol, a sefydliadau ymchwil.
Drwy gydweithio, byddant yn datblygu cynllun ar gyfer diwydiant dur cynaliadwy yn Ewrop, ynghyd â strategaeth ar gyfer ymateb i anghenion sgiliau'r gweithlu.
Bydd cronfa ddata'n cael ei chreu i gofnodi swyddi presennol a newydd yn y sector, a'r sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen ar eu cyfer. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gynnig hyfforddiant galwedigaethol newydd.
Y gobaith yw y bydd y gwaith yn helpu i gynnal diwydiant cystadleuol, sy'n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn hyrwyddo twf cynaliadwy, arloesedd, a swyddi medrus iawn newydd.
Fe wnaeth dros 20% o weithlu dur Ewrop adael y diwydiant yn y cyfnod rhwng 2005 a 2015, a bydd bron i 30% yn gadael yn ystod y degawd ar ôl hynny hyd at 2030. Nod yr ymchwil yw galluogi'r diwydiant dur i ddenu a chadw pobl ifanc a thalent creadigol, a chynnig hyfforddiant a dysgu gydol oes i bobl sy'n cael eu recriwtio.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan fenter Erasmus+, 'Cynghreiriau Sgiliau Sector', sydd â'r nod o fynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau ym myd diwydiant. Bydd y prosiect yn dechrau ar 1 Ionawr 2019.