Yr Athro Kenneth Hamilton yn perfformio Preludes to Chopin
4 Hydref 2018
Mae'r Athro Kenneth Hamilton wedi cynnal cyngerdd gyntaf o ddarnau o'i albwm sydd ar y gweill, Preludes to Chopin.
Perfformiodd Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ddetholiad o ddarnau o'r albwm yn yr Ysgol ddydd Mawrth 9 Hydref, a siarad am hanes y darnau.
Mae'r albwm yn dilyn ei ddau recordiad blaenorol a gafodd eu canmol, Back to Bach (2017) a Ronald Stevenson (2016).
Mae'r recordiad yn cynnwys sonatâu mawreddog Chopin a'r Barcarolle, yn ogystal â dau ddarn prin: Y Polonaise "Arwrol", wedi'i ail-weithio'n ddramatig gan Busoni, a fersiwn hiraethus o 'My Joys' gan Chopin/Liszt, wedi'i chwarae'n unol ag "atgofion personol o Liszt" gan Bernhard Stavenhagen, un o fyfyrwyr Liszt.
Mae nodiadau manwl yr Athro Hamilton ei hun ynghylch y darnau a'r perfformiad ohonynt yn cyd-fynd â'r CD. Ysgrifenna ynddynt, "gwirioni ar 'oes aur' canu'r piano, o Chopin i Paderewski, wnaeth fy ysbrydoli yma. Rwyf wedi gosod Preliwdiau hyfryd Chopin lle bwriadwyd iddynt fod yn y lle cyntaf – fel rhagymadroddion cain i ddarnau hirach – ac wedi ceisio ysgogi ysbryd y dull perfformio Rhamantaidd."
Ochr yn ochr â'i ddyletswyddau fel Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth a Deon Rhyngwladol Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, mae'r Athro Hamilton yn perfformio ledled y byd fel datgeiniad, unawdydd concerto a darlledwr. Cafodd ei ddisgrifio yn y gorffennol fel "pencerddor neilltuol – ymysg goreuon ei genhedlaeth am ganu'r piano" gan Kommersant Moscow, ac fel "perfformiwr bywiog, llawn egni" gan y New York Times.
Wrth siarad am yr albwm, dywedodd yr Athro Hamilton: "Ceisiais greu sain arbennig iawn ar gyfer y CD hwn: soniarusrwydd ariannaidd megis yng ngolau'r lleuad sydd, i'm meddwl innau, yn "Chopinesque". Gobeithio fy mod wedi llwyddo – ond barn y gwrandäwr sy'n cyfrif, yn y pen draw!"