Llwyddiant i’r tîm Bydwreigiaeth
4 Hydref 2018
Tîm Bydwreigiaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd wedi ennill y wobr am y tîm gorau yn yr ŵyl famolaeth a bydwreigiaeth ddiweddar.
Cynhaliwyd Ffair Famolaeth a Bydwreigiaeth Cymru a De-orllewin Lloegr 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau 20 Medi. Cynhaliwyd y digwyddiad yn rhan o’r Fforwm Mamolaeth a Bydwreigiaeth. Dyma ŵyl broffesiynol, gyda siaradwyr ac arddangosfeydd am arweinyddiaeth, fu’n amlygu datblygiadau ym maes Mamolaeth a Bydwreigiaeth ar draws y DU a’r byd.
Mae’r Gwobrau Mamolaeth a Bydwreigiaeth newydd yn cydnabod campau ac ymrwymiad staff mamolaeth a bydwreigiaeth ar draws y DU. Roedd 5 categori i gyd; Gwobr Bydwraig, Gwobr y Tîm Gorau, Gwobr Arloesedd, Gwobr y Myfyriwr Bydwreigiaeth Gorau a’r Wobr Rheoli Mamolaeth.
Fe enillodd Tîm Bydwreigiaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Gwobr y Tîm Gorau, oedd yn gategori cystadleuol iawn. Yr Athro Jean White CBE MStJ, Prif Swyddog Nyrsio Cymru a gyflwynodd y tlws a’r dystysgrif i’r tîm.
Roedd y beirniaid yn chwilio am dimau oedd yn gallu rhoi enghreifftiau o:
- Gydweithio rhyngbroffesiynol ardderchog
- Trawsnewid gwasanaethau
- Arloesedd
Cafodd Tîm Bydwreigiaeth ei gymeradwyo am ymrwymo i roi gofal ardderchog i fenywod a theuluoedd; addysg ryngbroffesiynol, o ran myfyrwyr meddygol yn enwedig; datblygu Gwytnwch a’r Grefft o Fydwreigiaeth drwy’r rhaglen is-raddedig; ehangu ei allgymorth byd-eang a symudedd myfyrwyr, yn ogystal ag ennill gwerthusiad ardderchog gan fyfyrwyr.
Meddai Grace Thomas, Prif Fydwraig dros Addysg a Phennaeth Proffesiynol dros Fydwreigiaeth ‘Rydym yn dîm bach, ymroddedig, ysbrydoledig sy’n gweithio’n agos gyda’r myfyrwyr a’n partneriaid mewn ymarfer clinigol er mwyn datblygu bydwragedd y dyfodol sy’n alluog, yn drugarog ac yn ofalgar.'