Gwobr Emerald Literati 2018
4 Hydref 2018
Mae papur sy'n trin a thrafod dysgu proffesiynol gan fentoriaid wedi cael Gwobr Emerald Literati am Ragoriaeth.
Awduron y papur yw Emmajane Milton, darllenydd a chyd-gyfarwyddwr y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP) a Dr Caroline Daly, Athro Gwadd Anrhydeddus a chyd-gyfarwyddwr arall y rhaglen MEP. Cyhoeddwyd y papur yn yr International Journal of Mentoring and Coaching in Education.
Mae'r ymchwil yn dadansoddi profiadau dysgu mentoriaid yng Nghymru, ac yn rhoi gwybod beth yw'r wyth egwyddor sydd eu hangen er mwyn bodloni anghenion dysgu a datblygu mentoriaid er mwyn iddynt allu rhoi cymaint o gefnogaeth â phosibl i helpu athrawon newydd i wireddu eu gwir botensial.
Mae'r egwyddorion hyn yn cynnwys y rheidrwydd i hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn y gymuned fentora, a'r angen i ymwrthod ag atebion syml a byrdymor o ddysgu a gwella.
Yn ogystal, dyfarnwyd Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol i Emmajane yn ddiweddar gan yr Academi Addysg Uwch, sy'n dathlu a chydnabod unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu o fewn addysg uwch.
Mae Gwobrwyon Emerald Literati bellach yn eu 25ain mlynedd, a'u nod yw dathlu a gwobrwyo cyfraniadau eithriadol awduron ac adolygwyr ym maes ymchwil ysgolheigaidd.
Dewisodd Emerald Publishing, sydd wedi cyhoeddi dros 300 o gyfnodolion a dros 2,500 o lyfrau, 245 o bapurau eithriadol a 513 o bapurau â chymeradwyaeth uchel ledled y byd. Caiff papurau eu hasesu dros ystod o chwe maes: rhyngwladoldeb; amrywiaeth; cymorth i ymchwil ysgolheigaidd; annog ymchwil gymhwysol (effaith); ymrwymiad i ysgolheictod o ansawdd uchel; ac awydd i wneud yn siŵr bod y darllenydd, yr awdur a'r cwsmer yn cael y profiad gorau posibl.
Dywedodd Emmajane, ar ennill y wobr: "Rwy'n falch ofnadwy o fod wedi cael y wobr hon – mae mentora o safon uchel yn hanfodol ar gyfer cynnal y proffesiwn addysg a chryn anoddach na'r gred gyffredin! Roedd y 150 o fentoriaid a gefnogodd athrawon ar y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn grŵp ysbrydoledig o unigolion, ac roedd eu cyfraniad yn ganolog i lwyddiant y rhaglen."