Athro o Ysgol Seicoleg yn ennill gwobr fawreddog am y llyfr gorau
3 Hydref 2018
Mae’r Athro Chris Chambers, Pennaeth Efelychu’r Ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael ei anrhydeddu’r wythnos hon drwy ennill Gwobr Llyfr Gorau 2018 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) am ei lyfr, ‘The Seven Deadly Sins of Psychology: A Manifesto for Reforming the Culture of Scientific Practice’.
Roedd tri chategori ar gyfer gwobrau 2018, sef Monograff Academaidd, Llyfr Testun a Gwyddoniaeth Boblogaidd. Yng nghategori’r Monograff Academaidd yr oedd llyfr Chris yn cystadlu.
Nod y llyfr yw gwneud ymchwil a’i chanlyniadau mor glir â phosib gan amlinellu cyfres greiddiol o ymarferion gorau. Ystyriwyd bod y llyfr ‘yn diffinio neu’n ailddiffinio maes o wybodaeth seicolegol’ o dan y categori Monograff Academaidd yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Yn ei lyfr, mae Chris yn trin a thrafod ‘ei brofiadau fel gwyddonydd i ddangos sut mae rhagfarnau pwerus yn gallu tanseilio ymarfer gwyddonol da, sut maent yn arteithio data nes iddo gynhyrchu canlyniadau a ellir eu cyhoeddi mewn cyfnodolion mawreddog. Hefyd, mae’n trafod sut mae astudiaethau’n llai dibynadwy o lawer nag y hysbysebir. Y datrysiad yw mabwysiadu ymarferion gwyddonol agored sy’n hyrwyddo efelychu gwaith ymchwil a’i wneud yn fwy tryloyw.
Meddai Sarb Bajwa, Prif Weithredwr Cymdeithas Seicolegol Prydain, “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr sy’n cynrychioli dyfnder ac amrywiaeth maes seicoleg. Mae’r ffaith ein bod yn gallu cydnabod tri llyfr mor nodedig ac apelgar yn adlewyrchiad o gryfder llenyddiaeth seicoleg ar hyn o bryd.”
“Braint yn wir yw ennill y wobr hon ac rwy’n ddiolchgar iawn” esboniodd Chris. “Mae Cymdeithas Seicoleg Prydain yn haeddu clod am groesawu llyfr sydd mor feirniadol o’r maes a hoffwn ddiolch i’m holl gydweithwyr yng Nghaerdydd a thu hwnt, sydd wedi cefnogi’r mudiad i wneud gwyddoniaeth yn fwy agored.”