Gwyddonwyr yn defnyddio dulliau rhithwir i ddatod sgrôl wedi llosgi o’r 16eg ganrif
3 Hydref 2018
Mae gwyddonwyr yn awyddus i ddod i hyd i sgroliau hynafol wedi'u difrodi sy’n annarllenadwy wrth i dechnegau newydd sbon ddatgelu’r testun cudd y tu mewn i sampl o’r 16eg ganrif a oedd wedi’i losgi’n ddifrifol.
Mae’r datblygiad newydd, y diweddaraf mewn cyfres hir o ddatblygiadau yn y maes yn y blynyddoedd diwethaf, wedi dangos sut y gellir cyflawni 'datod rhithwir' gan ddefnyddio dull mwy annibynnol a gyda sgroliau sy’n cynnwys nifer o dudalennau.
Yn yr un modd, gall y technegau cyfrifiadurol newydd bellach ymdrin â setiau data mawr iawn a delio â siapiau a meintiau mwy cymhleth.
Dangoswyd hyn drwy ddatod sgrôl o’r 16eg ganrif o Diss Heywood Manor yn Norwich, a oedd wedi’i losgi’n ddifrifol, ac wedi’i ffiwsio ynghyd heb ffordd bosibl o agor y sgrôl heb ei dinistrio.
Byddai’r sgrôl, a oedd yn 270mm o led, wedi cynnwys gwybodaeth am fywyd yn y plas a manylion ar drafodion tir, achosion o aflonyddu ar yr heddwch, talu dirwyon, enwau rheithwyr a gwybodaeth am gynnal a chadw'r tir.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn mireinio eu techneg ers iddynt ddatgelu testun cudd sgrôl o Bressingham Manor gyntaf dros bum mlynedd yn ôl.
Mae eu techneg, sy'n cynnwys cydweithwyr o'r DU a ledled y byd, i ddechrau yn cynnwys defnyddio tomograffeg pelydr-x, a gedwir fel arfer i’w ddefnyddio yn y maes meddygol, i greu miloedd o groestoriadau tenau o’r sgrôl. Ym mhob trawstoriad, mae’r inc o’r sgrôl yn cael ei wneud yn weladwy fel blobs llachar.
Drwy ddefnyddio algorithmau cyfrifiadurol tra datblygedig, roedd y tîm yna’n gallu uno pob darn o’r croestoriadau a’u marciau inc cysylltiedig i ffurfio cynrychiolaeth gwastad o’r sgrôl.
Roedd y testun ar sgrôl Diss Heywood yn cadarnhau ei bod wir yn perthyn i Neuadd Heywood a’i bod yn gofnod o'r Curia Generalis, y Llys Cyffredinol, sydd fel arfer yn cyfeirio at y Cantreflys (Court Leet) lle arferwyd y swyddogaethau sicrhau heddwch.
Roedd y canlyniadau hefyd yn cadarnhau bod y sgrôl yn ymdrin â thrafodion tir a busnes ewyllysiol o bosibl. Roedd hefyd yn bosibl gweld enwau unigolion.
Meddai Prif Ymchwilydd y prosiect, Yr Athro Paul Rosin, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Roedd y sgrôl o Diss Heywood yn sampl hynod o heriol i weithio gyda hi, nid lleiaf gan ei bod yn cynnwys pedwar o ddalenni o femrwn a llawer o haenau yn cyffwrdd, a all arwain at destun sy'n cael ei gysylltu â’r taflenni anghywir.
"Yn ogystal â hyn, roedd y sgrôl wedi troi lliw a chrychu yn sylweddol ac wedi’i gorchuddio mewn sylweddau tebyg i huddygl dros y tu allan iddi. Serch hynny, rydym ni wedi dangos, hyd yn oed gyda'r samplau mwyaf heriol, gallwn lwyddo i dynnu gwybodaeth ohonynt.
"Rydym ni’n gwybod bod corff mawr o ddogfennau hanesyddol mewn amgueddfeydd ac archifau sy'n rhy fregus i'w hagor neu eu dadrolio, felly byddem ni sicr yn croesawu’r cyfle i roi cynnig ar ein technegau newydd.
"Yn yr un modd, mae’r dull rydym ni wedi’i ddatblygu wedi’i awtomeiddio yn sylweddol, gan ei gwneud yn bosibl archwilio ystod mwy o ddogfennau a chyfryngau eraill, megis ffilmiau camera hen a rhai wedi'u difrodi."