Hanesydd yn siarad mewn ffair lyfrau ryngwladol
3 Hydref 2018
Cyhoeddi llyfr arloesol Czechoslovakia:The State That Failed am y tro cyntaf yn Tsieceg
Mae Mary Heimann, Athro Hanes Modern ymhlith y sêr blaenllaw sydd wedi’u gwahodd i roi darlith gan awdur a darlleniad yn yr 28ain Ffair Lyfrau Blynyddol ryngwladol yn y Weriniaeth Tsiec.
Y ffair lyfrau fawreddog hon yw’r ŵyl yng y Weriniaeth Tsiec sy’n cyfateb i ŵyl y Gelli Gandryll.
Bydd yr Athro Heimann yn darllen o'i llyfr arloesol Czechoslovakia:The State That Failed gan fod y llyfr ar gael yn Tsieceg am y tro cyntaf.
Cyhoeddwyd y gwaith nodedig hwn gan Yale University Press yn wreiddiol, ac mae wedi bod yn ddylanwadol o ran dymchwel rhai o’r mythau hanesyddol ynghylch Tsiecoslofacia fel gwlad sy’n ‘ddioddefwr’.
Gan esbonio ei hymagwedd at hanes, dywedodd yr Athro Heimann:
“Mae’r dull yr wyf wedi’i fabwysiadu o ran hanes syniadau yn debyg iawn i ddull anthropolegydd. Rwy’n trin y gorffennol fel cyfres o ddiwylliannau tramor y mae eu meddylfryd, eu rhagfarnau a’u rhagdybiaethau yn wahanol i'n rhai ni.
“Nid gwyddor ragfynegol mo ymchwil hanesyddol: ni all roi gwybod beth sydd yn ein haros yn y dyfodol. Gall ymchwilio i'r gorffennol, serch hynny, ein helpu i wneud synnwyr o broblemau presennol drwy roi dealltwriaeth i ni o’r cefndir a’r cymhlethdodau. Heb ddadansoddiad hanesyddol, rydym yn debygol o orsymleiddio.”
Drwy ddysgu gwersi o’r hanes hwn, fe lwyddodd yr Athro Heimann i gyfrannu argymhellion polisi ar gyfer sefydlogrwydd rhanbarthol drwy gyfrwng Partneriaeth NATO Dros Heddwch yn 2015.
Yn gynharach eleni trefnodd y gynhadledd hanesyddol Tsiecoslofacia100 yn y Brifysgol a daeth â diplomyddion, llunwyr polisïau a dadansoddwyr ynghyd i edrych ar sut y gall gwersi o hanes helpu i lunio polisïau ar gyfer byd sy'n newid heddiw.
Mae’r Athro Mary Heimann, Cadeirydd Hanes Modern yn Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn hanesydd sy'n arbenigo ym mhynciau Tsiecoslofacia, Pabyddiaeth Oes Victoria a Christnogaeth yn Nwyrain Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer. Yn ddiweddar sefydlodd Grŵp Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop a Chasgliad Arbennig Tsiecoslofacia ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r Athro Heimann yn ymddangos yn y 28ain Ffair Lyfrau Blynyddol Tsiecaidd ar 6 Hydref yn Havlickuv Brod.