Rôl gwerth £7m Caerdydd i ymchwilio i blaned fwy gwyrdd
8 Hydref 2018
Bydd buddsoddiad o £7m mewn ymchwil yn helpu gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd i chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu prosesau diwydiannol glanach a mwy gwyrdd.
Bydd arbenigwyr ym maes catalysis - astudiaeth o ddeunyddiau sy’n cyflymu adweithiau cemegol - yn canolbwyntio ar ffyrdd o fynd i’r afael â materion amgylcheddol sy’n wynebu’r blaned, o blastig a llygredd i burdeb dŵr.
Bydd ymchwilwyr o Sefydliad Catalysis Caerdydd yn derbyn yr arian yn rhan o fuddsoddiad £16m i Ganolfan Catalysis y DU yn Swydd Rhydychen gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).
Bydd y gefnogaeth yn helpu Caerdydd, prifysgolion partner a diwydiant i ddatblygu prosiectau ymchwil ar y cyd yn y Ganolfan, sydd y drws nesaf i gyfleusterau gwyddonol mawr eraill yng Nghyfadeilad Ymchwil Harwell.
Mae’r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2013 gyda buddsoddiad o £12.9m, wedi dod â gwyddonwyr a pheirianwyr cemegol ynghyd ac mae wedi darparu cyfleusterau a rennir, cyfleoedd i rwydweithio a hyfforddiant i gefnogi ymchwil mewn sefydliadau partner.
Dywedodd un o Brif Ymchwilwyr y Ganolfan, yr Athro Richard Catlow, Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Mae Catalysis wrth wraidd yr agenda werdd. Bydd y swm diweddaraf o arian yn ein galluogi i weithio’n uniongyrchol gyda diwydiant i ddatblygu arylliadau injan car glanach, dod o hyd i gatalyddion a all helpu i leihau gwastraff plastig byd-eang yn yr ‘economi gylchol’, datblygu catalyddion ar gyfer puro dŵr a dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio carbon deuocsid mewn cynhyrchion a phrosesau newydd.
Mae catalyddion yn fwyaf adnabyddus am eu defnydd mewn systemau gwacáu mwg cerbydau, lle maent yn helpu i chwalu’r nwyon gwenwynig a gynhyrchir gan beiriannau ceir cyn iddynt gael eu rhyddhau i’r atmosffer.
Mae ganddynt sawl defnydd masnachol ac yn gallu helpu i gynyddu maint prosesau cemegol o’r labordy i feintiau a chyflymder a all gael eu defnyddio o fewn diwydiant.
Bydd cyllid EPSRC hefyd yn darparu cefnogaeth sylweddol i waith ymchwil gwyddonwyr ym Mhrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Manceinion a Choleg Prifysgol Llundain.
Ychwanegodd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Canolfan Catalysis y DU a Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Mae’r Ganolfan yn dod â deugain o grwpiau prifysgolion ledled y DU ynghyd. Rydym wedi sefydlu partneriaethau cryf a pharhaol gyda diwydiant, ac wedi darparu llwyfan ar gyfer ein gwaith sy’n adnabyddus iawn ac yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’r offer o’r radd flaenaf ar Gampws Harwell - gan gynnwys cyfleusterau niwtron, syncrotron a laser - wedi ein helpu i adeiladu ein cydweithrediad drwy brosiectau amlddisgyblaethol ac aml-sefydliadol.”
Mae catalysis wrth wraidd y diwydiant cemegol. Mae’r DU yn y 7fed safle yn y byd am gyllid catalysis, ac mae’n cynhyrchu £50 biliwn y flwyddyn.