£3m o arian newydd i uned treialon
7 Awst 2015
Mae Uned Treialon De-ddwyrain Cymru (SEWTU) wedi cael £3m i barhau i gynnal ymchwil ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, a chefnogi ymchwilwyr yn y GIG drwy ei Wasanaeth Dylunio a Chynnal Ymchwil.
Mae SEWTU, sydd yng Ngholeg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd y Brifysgol, wedi cael rhagor o arian ar gyfer y tair blynedd nesaf gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru.
Ers ei sefydlu yn 2006, mae'r Uned wedi tyfu'n sylweddol ac mae wedi denu £16.5m o arian allanol (o brosiect gwerth £80m) i'r Brifysgol. Gyda'r arian hwn, mae 68 o wahanol astudiaethau wedi'u cynnal a 165 o bapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi yn ystod yr un cyfnod.
Mae prif nodau'r Uned yn cynnwys gwella ansawdd a chynyddu nifer y treialon (ac astudiaethau eraill a ddyluniwyd yn dda) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol o dan arweiniad ymchwilwyr yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi a chynghori staff sy'n gweithio yn y maes i ddatblygu cynigion ymchwil o'r radd flaenaf.
Mae gan SEWTU enw da rhyngwladol ar gyfer ymchwil ym meysydd heintiau, newid ymddygiad a phlant a phobl ifanc. Mae'r meysydd twf mwy diweddar yn cynnwys ymchwilio i ddyfeisiau meddygol a'r unigolyn hŷn.
Dywedodd Dr Michael Robling, Cyfarwyddwr SEWTU: "Mae ailgomisiynu'r Uned am dair blynedd arall yn dangos hyder yn ein gwaith a'i werth i gleifion a'r cyhoedd.
"Ni fyddem wedi cyflawni lefel y gweithgarwch ac ansawdd heb y gefnogaeth aruthrol yr ydym wedi'i chael gan Lywodraeth Cymru."
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynt, yn sefydliad cenedlaethol, amlweddog a rhithiol a gaiff ei ariannu a'i oruchwylio gan Isadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.