Trasiedi’r Tir Cyffredin
2 Hydref 2018
Mae arbenigwr cyfreithiol mewn polisïau llongau a chludiant rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd wedi cyflwyno darlith i gynrychiolwyr llywodraethol a diwydiannol yn Sefydliad Morol Malaysia (MIMA) yn Kuala Lumpur.
Bu darlith Dr Rawindaran Nair, Darlithydd Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn ymwneud â phenderfyniad y Tribiwnlys dan Atodiad VII Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 ynglŷn â’r anghydfod tiriogaethol dros Fôr De Tsiena. Bu’n trafod sut gellir deall hyn o safbwynt rheoli risgiau.
Cafodd y dyfarniad terfynol ei gyflwyno ar 12 Gorffennaf, 2016.
Pwysigrwydd strategol
Amlinellodd Dr Nair bwysigrwydd strategol Môr De Tsiena lle mae tua US$5 triliwn o nwyddau’n cael eu cludo bob blwyddyn.
Gan ddyfynnu cysyniad ‘Trasiedi’r Tir Cyffredin’ y bu Garrett Hardin yn sôn amdano’n hwyrach yn 1968, hyrwyddodd ailystyried y syniadau hyn ynglŷn â pherchnogaeth breifat o adnoddau cyffredin mewn cyd-destun rhyngwladol. Yn yr achos hwn, mae’n cyfeirio at fynd i’r afael ag anghydfod rhwng y gwledydd sy’n hawlio tiriogaethau a rennir ar hyn o bryd ym Môr De Tsieina.
Llywodraeth a diwydiant
Rhoddodd y ddarlith gyfle i gynrychiolwyr fanteisio ar arbenigedd Dr Nair a hyrwyddo trafodaeth rhwng cynrychiolwyr o lywodraeth a diwydiannau Malaysia.
Sefydliad ymchwil polisi yw MIMA, oedd yn arfer cael ei alw’n Sefydliad Materion Morol Malaysia. Cafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Malaysia er mwyn ymchwilio i faterion ynglŷn â buddiannau Malaysia ar y môr a gweithio fel pwynt cydweithio cenedlaethol ar gyfer ymchwil yn y sector morol.
Cyflwynodd Dr Nair ei ddarlith o ganlyniad i ymchwil sy’n dal ar waith, o’r enw ‘Penderfyniad y Tribiwnlys Cymrodeddu o dan Atodiad VII UNCLOS 1982 ar anghydfod tiriogaethol ym Môr De Tsiena: Ailystyried ‘Trasiedi’r Tir Cyffredin’, o safbwynt Rheoli Risgiau, a baratowyd ar y cyd gan Dr Nair, ei Gydweithiwr o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Daniel Eyers, a Dr Sabirin Ja’afar, arbenigwr cyfreithiol yn yr un maes o Malaysia.