Llunio dyheadau
1 Hydref 2018
Myfyrwyr yn cael gwared ar rwystrau rhag dod i'r brifysgol gyda phrosiect SHARE with Schools
Nod prosiect arloesol o dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw herio cysyniadau a chael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag ymgymryd ag addysg uwch. Bydd yn gwneud hyn drwy gyfrwng ymweliadau allgymorth cyson a gweithdai addysgol sy'n llawn hwyl.
Ôl-raddedigion ac israddedigion yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy'n gyfrifol am SHARE with Schools. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi sefydlu partneriaethau cynaliadwy gyda phump ysgol uwchradd yng Nghaerdydd a Chwm Cynon, ac wedi cynnal cannoedd o weithdai allgymorth mewn cyfanswm o 13 o ysgolion dros gyfnod o chwe mlynedd.
Ôl-raddedigion sydd wedi dylunio'r gweithdai, ac mae athrawon o ysgolion partner a sefydliadau treftadaeth fel Amgueddfa Stori Caerdydd wedi eu helpu i'w cynhyrchu. Maen nhw'n cael eu cynnal yn flynyddol, mewn ysgolion partner yn gyntaf, cyn i ymweliadau pwrpasol â'r Brifysgol gynnig profiad uniongyrchol o sefydliad addysg uwch.
Meddai Dr Dave Wyatt, arweinydd Cymuned ac Ymgysylltiad yr Ysgol: “Nod y prosiect yw ceisio cael gwared ar rwystrau a rhoi sylw i'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth ystyried mynd i'r brifysgol. Mae'r prosiect wedi'i ysgogi gan bobl ifanc eraill sydd wedi dod i'r brifysgol, ac sydd o bosibl wedi wynebu, a goresgyn, heriau tebyg iawn. Mae ein ffilm newydd yn dangos yn union beth mae'r prosiect yn ei olygu i ddisgyblion ysgol, ac i'r myfyrwyr sy'n gwirfoddoli.'
Ers 2011, mae 3,778 o ddisgyblion wedi manteisio ar bron i 200 o weithdai, sydd wedi'u cynnal gan 194 o wirfoddolwyr o blith myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'r disgyblion yn dysgu sut beth yw astudio yn y brifysgol, a hynny drwy gyfrwng gweithdai rhyngweithiol sy'n llawn hwyl. Bydd y gweithdai hyn yn berthnasol i'w treftadaeth nhw hefyd, er enghraifft Bywyd yng Nghymoedd Cymru yn y 19eg Ganrif, Caerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a Bywyd yng Nghymru yn yr Oes Haearn.
Un o sylfaenwyr y prosiect uchelgeisiol yw'r cyn-fyfyriwr israddedig a chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Blaengwawr, Dr Cath Horler-Underwood: “Helpais i sefydlu SHARE with Schools pan oeddwn i'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn astudio yng Nghaerdydd. Roeddwn i'n ymwybodol bod llawer o bobl ifanc o fy hen ysgol, a phobl eraill a gafodd eu magu yn yr ardal, yn teimlo bod addysg prifysgol allan o'u cyrraedd. Roeddwn i'n awyddus iawn i helpu i newid yr agwedd yma, ac i ddangos – o fy mhrofiad personol i – bod addysg uwch o fewn cyrraedd pawb."
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn gweithio gydag ysgolion partner yng Nghwm Cynon, yn ogystal â phedair ysgol yng Nghanol a Gorllewin Caerdydd, gan gynnwys Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Uwchradd Fitzalan. Mae'r prosiect wedi elwa hefyd ar gefnogaeth gan sefydliadau treftadaeth fel Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon. I'r sawl sy'n cymryd rhan, mae'r sesiynau wedi dod yn fyw diolch i arteffactau'r sefydliadau hyn.
Wrth siarad am y bartneriaeth hirdymor, dywedodd Pennaeth Hanes Ysgol Uwchradd Cathays, Gareth Taylor: “Rydyn ni'n gwasanaethu dalgylch canol dinas, a fydd llawer o'n disgyblion ni ddim yn cymryd yn ganiataol y byddan nhw'n mynd i'r brifysgol. I lawer, nhw fydd y genhedlaeth gyntaf i fynd i'r brifysgol, gobeithio. Felly, mae'r cyfle hwnnw i ofyn cwestiynau, i gael gwybod am fywyd yn y brifysgol ac i leddfu rhywfaint ar eu hofnau a'u diffyg gwybodaeth drwy fynd i'r sesiynau hyn, yn amhrisiadwy."
Mae'r prosiect ar fin dechrau ar gyfnod newydd, ac am ehangu ei ffiniau i gynnwys dwy ysgol gynradd yng Ngorllewin Caerdydd, yn ogystal â sicrhau datblygiadau newydd drwy bartneriaethau gyda phrosiectau ymchwil y Brifysgol, fel Views of an Antique Land a CAER Heritage Project, sydd wedi'u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Hyd yma, mae SHARE with Schools wedi helpu 168 o israddedigion drwy gynnig profiad ymarferol o ddatblygu ac arwain amrywiaeth eang o sesiynau gweithdy. Mae 26 yn rhagor o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi gwella eu sgiliau cyflogaeth, gan sicrhau profiad gwerth chweil o reoli prosiect a hyfforddi drwy gydlynu'r prosiect.
Yn ogystal, mae'r prosiect yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o athrawon. O ganlyniad i brofiad uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth, mae llawer o fyfyrwyr bellach yn mynd ar drywydd cymwysterau addysgu, ac yn dechrau ar yrfaoedd yn y proffesiwn ar draws y sector.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yr Athro James Hegarty: “Mae SHARE with Schools yn enghraifft wych o'r profiad anhygoel y gall y brifysgol ei gynnig. Mae'n rhoi profiad gwaith llawn boddhad i'n myfyrwyr, sy'n gysylltiedig â'n gwaith ymchwil diweddaraf, ac mae hefyd o fantais i'r gymuned ehangach, i'r proffesiwn addysgu ar sawl lefel, ac i genhadaeth ddinesig y Brifysgol.”
Mae SHARE with Schools yn parhau i ehangu ar ei weithgareddau, gan ddatblygu gweithgareddau newydd mewn ystod ehangach o ysgolion dros y flwyddyn sydd i ddod.
Yn gweithio ochr yn ochr â'r prosiect y mae Exploring the Past, un o'r amrywiol lwybrau yn ôl i fyd addysg i fyfyrwyr yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am SHARE with Schools yn y ffilm hon sydd wedi'i chynhyrchu ar y cyd, ac a wnaed mewn partneriaeth â'r gwneuthurwyr ffilmiau AOTV.