Atal dysentri rhag lledaenu
7 Awst 2015
Mae gwyddonwyr y Brifysgol wedi taflu goleuni newydd ar glefyd sydd, yn ôl amcangyfrifon, yn effeithio ar 165m o bobl ledled y byd.
Er gwaethaf gwelliannau diweddar mewn glanweithdra a darparu dŵr glân ledled y byd, mae dysentri'n parhau i fod yn faich mawr ar iechyd y cyhoedd ledled y byd, ac mae'n aml yn effeithio ar blant mewn gwledydd incwm isel.
Erbyn hyn, mae tîm a arweinir gan Dr Thomas Connor o Ysgol y Biowyddorau a'r Athro Nick Thomson o Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome, wedi defnyddio'r technegau genomeg diweddaraf i ddatgelu mwy am facteria Shigella flexneri, un o brif achosion y clefyd.
Mewn gwaith a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn academaidd eLife, rhoddodd y tîm DNA Shigela flexneri mewn trefn. Defnyddiwyd samplau a gymerwyd o Affrica, Asia, De a Chanolbarth America yn ogystal â samplau o gasgliadau hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i 1913.
Daeth i'r amlwg iddynt fod y bacteria yn gallu goroesi yn yr amgylchedd lleol, gan ei alluogi i ennill ei blwyf mewn rhanbarthau am ddegawdau neu ganrifoedd.
Yn bwysicach na hynny, dangosodd y gwaith bod y bacteria yn gallu cyfnewid ei seroteip – rhan allweddol o'i haen allanol a 'welir' gan y system imiwnedd - gan olygu y gallai brechlynnau posibl fod yn ddiwerth yn y frwydr yn erbyn y clefyd.
"Mae deall sut mae S. flexneri wedi newid a lledaenu mewn gwledydd endemig yn hanfodol er mwyn datblygu a thargedu ymyriadau yn fwy effeithiol," meddai Dr Thomas Connor, fu'n arwain yr ymchwil.
"Drwy ddefnyddio genomeg, rydym wedi gallu nodweddu'r pathogen hwn yn gwbl glir ar raddfa fyd-eang, ac mae ein canfyddiadau'n ailddiffinio'r hyn a wyddwn am y bacteria hwn."
Daeth i'r amlwg hefyd yn y dadansoddiad genomeg hwn nad yw defnyddio technegau microbiolegol fel seroteipio i ddeall lledaeniad ac amrywiaeth y bacteria, o ddefnydd i gynllunio ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus a chreu brechlynnau effeithiol.
"Yn wahanol i rywogaethau Shigella eraill, rydym wedi canfod bod S. flexneri yn gallu goroesi mewn rhanbarth daearyddol, heb gyswllt â phobl. Felly, er bod brechu'n bwysig, nid yw hynny'n ddigon ar ei ben ei hun i gael gwared ar y bacteria ymhlith pobl," yn ôl Clare Barker, fu'n gweithio yng ngrŵp Dr Connor ar yr ymchwil.
"Mae S. flexneri yn goroesi mewn dŵr am gyfnodau hir. Felly, bydd gwella ansawdd dŵr a charthffosiaeth, fel yr amlinellwyd yn Nodau Datblygu'r Mileniwm, yn hollbwysig er mwyn atal ailheintio a chael gwared ar y clefyd o ardal," ychwanegodd.
Fodd bynnag, mae'r wybodaeth a gafwyd drwy roi'r genom cyfan mewn trefn hefyd yn cynnig dewisiadau newydd o ran cynhyrchu brechlynnau sydd wedi'u targedu'n fwy penodol.
"Mae ein canfyddiadau'n dangos bod llinachau pwysig o S. flexneri yn gallu newid rhwng seroteipiau ac osgoi effaith amddiffynnol brechlynnau sy'n seiliedig ar seroteipiau," yn ôl yr Athro Nick Thomson, uwch-awdur o Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome.
"Drwy ddefnyddio genom i astudio sut mae'r rhywogaethau wedi'u trefnu ar sail y cydrannau manylaf sy'n bosibl, rydym yn gallu nodi llinachau clir o facteria ar sail y genynnau gwenwynig sydd ganddynt.
"Gellir mynd ati wedyn i dargedu'r llinachau hyn yn fwy effeithiol er mwyn ymyrryd, boed hynny drwy ddatblygu brechlyn a/neu strategaethau amgen," ychwanegodd.