Angen ymagwedd 'radical' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
7 Awst 2015
Mae angen syniadau newydd a radical i fynd i'r afael ag argyfwng ariannol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl arbenigwr gwleidyddol blaenllaw cyn trafodaeth bwysig yn yr Eisteddfod.
Mae'r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn cynnal trafodaeth gyda phanel rhagorol fydd yn ystyried sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ffynnu pan mae adnoddau o dan straen aruthrol.
Dywedodd fod maes darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu ei “her fwyaf erioed” a bod y sefyllfa’n mynd i waethygu’n sylweddol cyn iddi ddechrau gwella.
Cynhelir y drafodaeth gan Brifysgol Caerdydd ym Mhabell y Cymdeithasau ar y Maes brynhawn Gwener 7 Awst am 2 o'r gloch.
Wrth edrych ymlaen at y drafodaeth, dywedodd yr Athro Wyn Jones: "Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu hargyfwng mwyaf ers blynyddoedd lawer yn sgîl y wasgfa ariannol bresennol.
"Mae'n golygu bod angen syniadau newydd a radical os bydd y gwasanaethau hyn am allu ateb y galw cynyddol hwn yn y blynyddoedd i ddod.
"Bydd gan arloesedd rôl bwysicach nag erioed o ran sut bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio."
Mae'r panel hefyd yn cynnwys Adam Price o elusen arloesedd Nesta; Ifan Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Arloesedd mewn Gofal Iechyd, Llywodraeth Cymru; a Dr Sioned Pearce, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Brifysgol.
“Mae hanes hir gan y Brifysgol o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynghori ar fentrau fel ad-drefnu llywodraeth leol, gwella polisïau addysg, a chyfrannu at ddatblygiadau iechyd cyhoeddus.
Mae Nesta a'r Brifysgol wedi creu 'Y Lab' yn ddiweddar i greu a phrofi atebion newydd i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus. Y nod yw rhoi cefnogaeth ymarferol a chyfrannu at agenda Llywodraeth Cymru o hyrwyddo arloesedd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus.
Mae gan y Brifysgol ganolfannau ymchwil sy'n cefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys canolfan DECIPHer, sy'n edrych ar flaenoriaethau ym maes iechyd y cyhoedd gan gynnwys alcohol, gordewdra ac iechyd meddwl, a WISERD sy'n canolbwyntio ar ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.
Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae Sefydliad Polisïau Cyhoeddus Cymru hefyd, ac mae yno academyddion sy'n cynghori'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau pwysig gan gynnwys Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Chomisiynwyr yr UE.
Mae campws arloesedd gwerth £300m yn cael ei adeiladu ar Heol Maendy fel rhan o system arloesedd y Brifysgol. Ei nod yw creu ffyniant drwy droi syniadau yn gynnyrch, yn dechnolegau ac yn fusnesau newydd.