Adnoddau addysg nyrsio efelychol gan brosiect Ewropeaidd
28 Medi 2018
Ar hyn o bryd, mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymgymryd â phrosiect 3 blynedd o hyd a ariennir gan Bartneriaeth strategol Ewropeaidd Erasmus ar gyfer Addysg Uwch. Diben y prosiect yw datblygu adnoddau addysg efelychol ar gyfer myfyrwyr nyrsio.
iSPAD (Arloesedd - Efelychu Addysgeg ar gyfer Datblygiad Academaidd) yw enw arall ar brosiect y bartneriaeth. Dechreuodd ym mis Rhagfyr 2016 a daw i ben ym mis Awst 2019.
Ym mis Mehefin 2018, cynhaliodd yr Ysgol seminar gwybodaeth i drafod y cynnydd hyd yn hyn gyda chydweithwyr academaidd a chlinigol perthnasol ar draws de-ddwyrain Cymru. Ar ben hynny, daeth dau siaradwr gwadd o Brifysgol Portsmouth i drafod efelychu mewn addysg nyrsio.
Canodd Carrie Hamilton, aelod gweithredol ar fwrdd Cymdeithas Ymarfer Efelychol mewn Gofal Iechyd (ASPiH) a Chyfarwyddwr Addysg yn Academi SimComm, glod gwaith y prosiect hyd yn hyn.
Y cam nesaf fydd rhoi’r adnodd a’r gwaith o werthuso ar droed yn rhan o brosiect ymchwil gwerthuso realydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i sawl canolfan ymchwilio i addysg efelychol ar y cyd.
Cafodd y seminar gwybodaeth ei recordio ac mae ar gael ar wefannau Prifysgol Malta.