Ydy gweithgynhyrchu yng Nghymru ar ei hôl hi?
27 Medi 2018
Gallai’r busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru wella eu heffeithiolrwydd a’u hallbwn yn sylweddol trwy ddefnyddio’r technolegau a’r systemau busnes y mae sefydliadau mwy yn y diwydiant yn manteisio arnynt.
Bydd digwyddiad Prifysgol Caerdydd a NatWest Cymru mis nesaf yn helpu busnesau o sector gweithgynhyrchu amrywiol Cymru i ddeall manteision datblygiadau diweddar mewn Gweithgynhyrchu Clyfar fel bod modd iddyn nhw hefyd elwa o ddefnyddio pethau megis deallusrwydd artiffisial a chyfnewid data.
Mae Gweithgynhyrchu Clyfar, gan gynnwys datblygiadau technegol mewn awtomeiddio a roboteg uwch, cysylltedd rhyngrwyd a phrosesu data mawr (cyfeirir atynt gyda’i gilydd weithiau fel Diwydiant 4.0), yn prysur ddatblygu’n rhan greiddiol o fusnesau gweithgynhyrchu.
Effeithiolrwydd, hyblygrwydd a gwydnwch
Mae’r defnydd o dechnolegau cyfrifiadurol newydd a systemau gwybodaeth datblygedig yn caniatáu cwmnïau i fod yn fwy effeithiol, hyblyg a gwydn wrth weithredu.
Mae enghreifftiau yn cynnwys technegau rhagfynegi datblygedig i hwyluso gweithrediadau gweithgynhyrchu a rheoli cadwyni cyflenwi yn fwy effeithiol.
Pan fydd datblygiadau o’r fath a arweinir gan dechnoleg yn cael eu hategu gan ffyrdd mwy clyfar o weithio, mae’r manteision i fusnesau’n gallu bod yn enfawr.
Cynhelir y digwyddiad, a elwir Is Smart manufacturing for SMES?, ar 3 Hydref a bydd yn cynnwys sgyrsiau gan gynrychiolwyr o Ddiwydiant Cymru, NatWest, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru.
Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda Shine Food Machinery o Gasnewydd, sydd wedi elwa o raglen Knowledge Transfer Partnership Prifysgol Caerdydd.
Bydd meysydd trafod yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, Gweithgynhyrchu Clyfar, rhagfynegi a rheoli cadwyni cyflenwi yn fwy effeithiol.
Ecosystem lewyrchus
Dywedodd Adrian Coles, Cyfarwyddwr Perthynas NatWest Cymru, Cwmpas Corfforaethol a Masnachol, De-ddwyrain Cymru: “Mae Cymru yn gartref i ecosystem lewyrchus o fusnesau gweithgynhyrchu BBaCh, ond mae’n dealladwy fod nifer o’r cwmnïau yn gweld fod gwelliannau fel awtomeiddio a thechnolegau Al yn berthnasol i gyflogwyr byd-eang llawer mwy yn unig...”
Ychwanegodd Andrew Hopkins, Rheolwr Technoleg Strategol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn llwyr groesawu gweithio ar y cyd gyda diwydiant ar sail gyfrinachol...”
“Bydd y busnes yn defnyddio’r ymchwil i wella eu perfformiad a bydd Prifysgol Caerdydd yn elwa o wybodaeth werthfawr am ymchwil gymhwysol i lywio prosiectau’r dyfodol.”
I fynd i ‘Is SMART manufacturing for SMEs?’ ar 3 Hydref 2018 yn Ysgol Busnes Caerdydd cysylltwch ag Adrian Coles.