A allai asbrin chwarae rôl wrth drin canser?
26 Medi 2018
Gallai defnyddio aspirin yn rheolaidd helpu wrth drin rhai mathau o ganser, yn ôl adolygiad newydd o 71 o astudiaethau meddygol.
Fe wnaeth yr adolygiad systematig, a edrychodd ar gyfraddau goroesi 120,000 o gleifion gyda chanser oedd yn cymryd aspirin, o’u cymharu â 400,000 o gleifion nad oedd yn cymryd aspirin, ddangos ar unrhyw adeg yn dilyn diagnosis rhai mathau o ganser bod y gyfradd o gleifion a oedd dal yn fyw 20-30% yn fwy yn y rhai hynny oedd yn cymryd y cyffur. Roedd lledaeniad canser i rannau eraill o’r corff hefyd wedi’i leihau’n sylweddol mewn cleifion oedd yn defnyddio aspirin.
Dywedodd Peter Elwood, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, a wnaeth gyfarwyddo’r astudiaeth: “Mae wedi’i hen sefydlu bod defnyddio dos isel o Aspirin yn ffordd o atal clefyd y galon, strôc a chanser ond mae tystiolaeth nawr yn dod i’r amlwg y gallai’r cyffur chwarae rôl werthfawr fel triniaeth ychwanegol ar gyfer canser hefyd.”
Mae’r astudiaeth hefyd yn awgrymu y byddai gan ddyn nad yw’n dioddef o glefyd siwgr, tua 65 mlwydd oed, gyda chanser y coluddyn mawr brognosis tebyg i un dyn pum mlynedd yn iau nad yw’n cymryd unrhyw Aspirin. Ar gyfer menyw o oedran tebyg gyda chanser y coluddyn mawr gallai ychwanegu aspirin at ei thriniaeth arwain at brognosis tebyg i fenyw pedair blynedd yn iau.
Roedd bron i hanner yr astudiaethau gafodd eu cynnwys yn yr adolygiad o gleifion gyda chanser y coluddyn, ac roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau eraill o gleifion gyda chanser y fron neu’r brostad. Ychydig iawn o astudiaethau oedd o gleifion gyda mathau llai cyffredin o ganser, ond ar y cyfan mae’r dystiolaeth gyfunol ar gyfer pob math o ganser yn awgrymu budd o ddefnyddio aspirin.
Fodd bynnag, mae’r holl dystiolaeth hon yn gyfyngedig. Yn gyntaf, daw o astudiaethau arsylwadol o gleifion oedd yn cymryd aspirin am resymau eraill ac eithrio fel rhan o driniaeth canser, ac nid o hapdreialon priodol a ddyluniwyd i brofi aspirin a chanser.
At hynny, nid yw’r dystiolaeth yn gwbl gyson ac mae ychydig o’r astudiaethau wedi methu â chanfod budd y gellir ei briodoli i aspirin. Felly mae angen rhagor o dystiolaeth ar frys. Mae nifer o hapdreialon newydd wedi’u sefydlu, ond mae’n annhebygol y bydd y rhain yn cael eu hadrodd am ychydig o flynyddoedd.
Adolygwyd y mater o waedu yn ofalus yn yr adolygiad. Gwnaed cais am wybodaeth ar waedu gan awdur bob un o’r 71 o adroddiadau a derbyniwyd ymateb gan 31 o awduron.
Ychydig iawn o gleifion wnaeth ddioddef o waedu difrifol. Ymhlith y rhai wnaeth ddioddef gwaedu difrifol, nid oedd y gyfran o gleifion oedd yn cymryd aspirin a gafodd waedlif ‘difrifol’ yn ddim uwch na’r gyfran o gleifion nad oedd yn cymryd aspirin oedd wedi profi gwaedlif ‘digymell’ ar y stumog oherwydd achosion eraill ac eithrio aspirin. Mewn dwy astudiaeth roedd nifer fechan iawn o waedlifoedd stumog angheuol wedi digwydd, ond unwaith eto nid oedd y gyfran yn fwy yn y cleifion ar aspirin nag yn y rhai nad oeddent yn cymryd aspirin.
Dywed Peter Elwood, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, a wnaeth gyfarwyddo’r astudiaeth: “Dylai cleifion gyda chanser gael y dystiolaeth sydd nawr ar gael a chael cymorth i ddod i’w casgliad eu hunain am y cydbwysedd rhwng risgiau a manteision dos ddyddiol isel. Mae angen tystiolaeth o astudiaethau pellach ar frys, a dylid annog cleifion yn gryf i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil priodol.
“Dylai’r holl gleifion ymgynghori gyda’u Meddyg Teulu cyn dechrau ar feddyginiaeth newydd.”
Mae’r ymchwil ‘Diweddariad adolygiad systematig o astudiaethau arsylwadol yn cefnogi rôl aspiring ymhellach mewn triniaeth canser: amser i rannu tystiolaeth a gwneud penderfyniadau gyda chleifion?’ wedi’i gyhoeddi yn Plos One Medicine.