Ewch i’r prif gynnwys

Menter ar y cyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr am gydweithio

26 Medi 2018

Scientist

Mae’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE, ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr ‘Cydweithio’ am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Insider’s Made in Wales.

Mae’r gwobrau yn dathlu’r cwmnïau gorau yng Nghymru ym meysydd gweithgynhyrchu, datblygu cynnyrch a dylunio Cymraeg.

Mae’r categori ‘Cydweithio’ yn dathlu llwyddiannau cydweithio arbennig rhwng cwmni gweithgynhyrchu a thrydydd parti. Mae CSC wedi’i enwebu ar ôl llwyddo i gael dros £6m o arian Ymchwil Cydweithredol o ffynonellau megis InnovateUK, y Swyddfa Gartref, Eurostars, Rhaglen Dechnoleg Cwantwm y DU a Llywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r gweithgarwch hwn wedi bod yn allweddol i weithredu gweledigaeth y ganolfan o greu clwstwr o ragoriaeth mewn Arloesedd a Gweithgynhyrchu yn ne Cymru yn benodol ar gyfer technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, sydd wedi denu ymrwymo i fuddsoddi dros £600m mewn prosiectau cyfalaf ers 2015.

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr CSC: “Rydym wrth ein bodd i fod ar restr fer y categori cystadleuol iawn hwn, ac yn gobeithio adeiladu ar ein llwyddiannau yn 2017. Bryd hynny, fe wnaethom ennill gwobrau Cydweithio Ymchwil Techworks, Gwobr Effaith Economaidd Busnes ac Addysg The Insider, ac roedden ni ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Addysg Uwch y Times ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth.”

Caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn digwyddiad tei ddu yn Neuadd Dewi Sant ar 4 Hydref 2018. Bydd y cwmnïau llwyddiannus yn mynd ymlaen i gystadlu yn nigwyddiad Insider’s Made in the UK.

Cafodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu yn 2015 fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r arbenigwyr Lled Ddargludyddion Cyfansawdd IQE Plc, sydd â'u pencadlys yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio gyda Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) y Brifysgol i gyflymu’r broses fasnacheiddio o ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n gyrru'r dyfeisiau a'r technolegau yr ydym yn eu defnyddio heddiw, gan gynnwys ffonau clyfar, llechi, cyfathrebu drwy loeren a GPS.

Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) ym Mhrifysgol Caerdydd yn galluogi ymchwilwyr a'r diwydiant i gydweithio er mwyn bodloni galw'r defnyddwyr trwy ddatblygu ymchwil academaidd hyd at bwynt lle gellir ei chyflwyno’n ddibynadwy ac ar fyrder i’r sector cynhyrchu.

Bydd ICS yn symud o’i gartref cyfredol yn Adeiladau’r Frenhines yn y Brifysgol i’r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol (TRF) newydd, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn rhan o ddatblygiad newydd Campws Arloesedd Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.