Atal osteoarthritis yn dilyn anaf
26 Hydref 2018
Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Rhydychen, Leeds a Chaerdydd wedi datblygu cyfres o ystyriaethau wrth ddylunio astudiaethau sy’n ceisio atal osteoarthritis (OA) ymysg cleifion sydd wedi cael anaf acíwt i'w pen-glin. Bwriedir i'r ystyriaethau hynny fod yn sail i arweiniad yn y dyfodol wrth i'r maes ddatblygu.
Anaf i'r cymalau yw un o'r prif ffactorau risg ar gyfer OA, ac mae 50% o bobl ag anafiadau sylweddol i'w pen-glin yn datblygu'r hyn a elwir yn OA ôl-drawmatig o fewn 10 mlynedd.
Yn ôl cyd-arweinydd yr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Arthritis y DU ar gyfer Osteoarthritis Pathogenesis, Dr Fiona Watt, "Mae atal OA yr un mor hanfodol â datblygu therapïau newydd ar gyfer osteoathritis sefydledig. Roeddem yn gallu dod â thîm o arbenigwyr o feysydd amrywiol ynghyd er mwyn canolbwyntio ar wella ein dull ymchwil o ran treialu triniaethau newydd pan geir anaf i'r cymalau, gyda'r bwriad o wella gofal iechyd."
Ar hyn o bryd, nid oes canllawiau penodol ar gyfer treialon clinigol sy'n mesur effaith ymyraethau ar gyfer atal OA yn dilyn anaf, ac mae nifer o heriau penodol yn dod i’r amlwg yn yr astudiaeth hon. Ymhlith y rheiny mae'r cyfle ar gyfer unrhyw ymyrraeth a'r cyfnod posibl sydd ei angen er mwyn astudio i gael canlyniadau ystyrlon.
Mae'r ystyriaethau cyntaf a nodwyd gan y grŵp yn cynnwys gwybodaeth ar bwy ddylid eu cynnwys mewn treialon o'r fath, amseru'r ymyrraeth, pa ganlyniadau y dylid eu casglu a pha bryd, pwysigrwydd cymariaethau gan gynnwys triniaethau plasebo a phwysigrwydd cysylltu â modelau cyn-glinigol o anafiadau i'r cymalau ac astudiaethau o garfannau dynol, er mwyn llywio dyluniad astudiaethau yn y dyfodol. Mae bylchau hanfodol mewn gwybodaeth a meysydd ar gyfer ymchwil yn y dyfodol wedi'u hamlygu yn rhan o'r gwaith hwn.
"Mae datblygiadau cyffrous mewn astudiaethau cyn-glinigol yn awgrymu y gallai ymyrryd ar yr adeg pan gafwyd yr anaf ostwng neu oedi OA ôl-drawmatig", yn ôl y cyd-arweinydd, Deborah Mason o Brifysgol Caerdydd. "Mae'r papur hwn yn bwysig am ei fod yn dechrau paratoi’r ffordd tuag at dreialu triniaethau o'r fath mewn treialon clinigol dynol."
Daeth y tîm i'r casgliad bod angen cynnydd brys ym maes atal OA, er gwaethaf yr heriau, os ydym am wella gofal a darparu therapiwteg newydd sydd o fudd i gleifion.
Ariannwyd yr ymchwil gan Ymchwil Arthritis y DU.