Mynd i’r afael â diogelwch bwyd a newyn byd-eang
24 Medi 2018
Bydd Roberta Sonnino, Athro Polisi a Chynllunio Amgylcheddol o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn mynd i’r afael â materion diogelwch bwyd yn Senedd Ewrop ym Mrwsel ar Ddiwrnod Bwyd y Byd (16 Hydref 2018).
Cynhelir y digwyddiad, a elwir yn ‘FOOD 2030: Research and Innovation for a #ZeroHunger World’ gan ASE Paolo De Castro, Is-gadeirydd Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Cefn Gwlad.
Bydd yr Athro Sonnino yn cyflwyno prif ganfyddiadau ei gwaith cynghori fel Is-gadeirydd Grŵp Arbenigol BWYD 2030 y Comisiwn Ewropeaidd a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Bydd ystod amrywiol o leisiau arbenigol dros faterion diogelwch bwyd a chynaliadwyedd, newyn ac arloesedd amaethyddol yno hefyd, gan gynnwys:
- John Bell, Cyfarwyddwr Bioeconomeg, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesedd, y Comisiwn Ewropeaidd
- Rodrigo de Lapuerta Montoya, Cyfarwyddwr Swyddfa Cyswllt yr Undeb Ewropeaidd a Gwlad Belg, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig
- Emile Frison, Arbenigwr ar Gadwraeth a Bioamrywiaeth Amaethyddol, IPES-Food
- Nevena Alexandrova–Stefanova, Swyddog Systemau Arloesedd Amaethyddol a Rhannu Gwybodaeth, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig
Mae’r Athro Sonnino yn dadlau mai: “Diogelwch bwyd yw un o heriau gwleidyddol a chymdeithasol fyd-eang sylfaenol ein hamser. Mae’n rhaid i ni arloesi, ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol i greu polisi bwyd sy’n galluogi creu economïau bwyd cynaliadwy a dod ag ansicrwydd bwyd a newyn i ben.”
“Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd, rwy’n edrych ymlaen at ymgynnull gyda chydweithwyr ym Mrwsel i rannu canfyddiadau ymchwil diweddar i helpu ysgogi meddylfryd newydd ac atebion creadigol am fyd #DimNewyn.”
Mae’r Athro Sonnino yn awdurdod sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth bwyd ac mae ei harbenigedd ymchwil yn cynnwys systemau bwyd lleol, caffael bwyd cyhoeddus, llywodraethu bwyd trefol a diogelwch bwyd. Yn ychwanegol i’w rôl fel ymgynghorydd i’r Comisiwn Ewropeaidd a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, mae hefyd wedi gweithio ar ran Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i’r digwyddiad cofrestrwch erbyn 5 Hydref 2018.