Y Brifysgol yn cefnogi Bagloriaeth Cymru
25 Medi 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn helpu athrawon i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cymhwyster newydd Bagloriaeth Cymru.
Ym mhedwaredd Cynhadledd Flynyddol Athrawon Bagloriaeth Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, rhoddwyd cefnogaeth i alluogi athrawon i gyflwyno cymhwyster newydd Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
Cymerodd athrawon o bob cwr o dde Cymru ran mewn cyfres o weithdai oedd yn canolbwyntio ar ymchwil fel eu bod yn gallu rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar blant.
Nod yr Her Sgiliau yw datblygu sgiliau myfyrwyr ar gyfer rhagor o astudiaethau a byd gwaith.
Roedd y gweithdai yn cynnwys pynciau fel technegau mewn cyfweliadau, dylunio cwestiynau arolygon, a dadansoddi data ansoddol i gynorthwyo’r rhan o’r her a elwir y ‘prosiect unigol’ sy’n cael ei graddio.
Cafodd yr athrawon adnoddau ystafell dosbarth hefyd i’w cynorthwyo.
Mae'r datblygiad proffesiynol parhaus hwn, sy'n rhan o Genhadaeth Ddinesig y Brifysgol, yn rhoi sgiliau a gwybodaeth i athrawon i gefnogi addysgu o safon uchel yng Nghymru.
Datblygwyd y digwyddiad mewn partneriaeth ag ymchwilwyr ar draws y Brifysgol yn ogystal ag athrawon cynghorol o Gonsortiwm Canolbarth y De (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg) a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen).
Cymerodd nifer o sefydliadau partner ran gan gynnwys BBC Bitesize, Amgueddfa Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a CBAC.
Mae’r gynhadledd hon, a agorwyd gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Karen Holford, yn un o nifer o weithgareddau ac adnoddau y mae’r Brifysgol yn eu cynnig ar gyfer Bagloriaeth Cymru i helpu ysgolion a cholegau sy'n darparu'r cymhwyster.