Trosedd lai amlwg yn cael sylw
25 Medi 2018
Drama ddiweddaraf Tim Rhys o'r cwrs Ysgrifennu Creadigol yn tynnu sylw at Droseddau Cyfeillio yn y Senedd
"Stori angerddol a llawn teimlad - anodd i'w gwylio ar adegau ond hollol afaelgar" (Theatre in Wales)
Bydd y ddrama ddiweddaraf gan y dramodydd/academydd Tim Rhys, Quiet Hands, yn cael ei pherfformio yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl cael gwahoddiad gan Mark Isherwood AC, Cadeirydd Grŵp Awtistiaeth Trawsbleidiol a noddwr y digwyddiad.
Gan fod troseddau cyfeillio bellach ar raddfa frawychus yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, mae’r ddrama yn tynnu sylw at y drosedd lai amlwg hon.
Mae oedolion ifanc ar y sbectrwm awtistig yn arbennig o agored i niwed, gan eu bod yn aml wedi'u hynysu yn gymdeithasol, ac mae diffyg rhwydweithiau cymdeithasol ganddynt i’w diogelu fel sydd gan y rhan fwyaf ohonom. Gellir twyllo’r rhai sy’n byw ar eu pennau eu hunain i gyfeillio ac i ymddiried yn eu "ffrindiau" newydd sydd wedyn yn eu bwlio ac yn dwyn oddi wrthynt yn systematig.
Weithiau mae’r cam-drin hwn wedi arwain at drais erchyll, hyd yn oed yn angheuol, heb i neb sylwi’n aml. Mae dioddefwyr yn aml yn amharod neu'n methu dianc neu ddweud wrth unrhyw un beth sy'n digwydd iddynt.
Mae Quiet Hands yn dilyn hynt a helynt Carl, y prif gymeriad awtistig yn y cynhyrchiad blaenorol Touch Blue Touch Yellow, mewn stori drawiadol sy'n sôn am y troseddau casineb sy'n cael eu cyflawni yn erbyn yr aelodau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Mae Quiet Hands wedi cael canmoliaeth gan wybodusion o fyd y theatr a'r celfyddydau i bobl anabl
Mae hon yn “ddrama bwerus a pherthnasol" (British Theatre Guide) gan Rhys sydd wedi cael clod am ei dilysrwydd "gan ddefnyddio tynnu coes chwareus sy'n troi'n raddol i fod yn fwlio anghynnil. O dan gyfarwyddyd Chris Durnall, mae'r naws bygythiol i'w deimlo drwy'r amser.
Yng nghyd-destun awtistiaeth, mae'r ymadrodd 'dwylo tawel' yn cael ei ddefnyddio mewn therapïau cydymffurfio. Dyma beth sy'n cael ei ddweud i annog plant awtistig i roi'r gorau i wingo h.y. symudiad ailadroddus y corff sy'n cyfleu hwyl, teimladau a meddyliau. Nid yw'n cael ei ddefnyddio cymaint erbyn hyn gan fod gweithwyr proffesiynol yn deall pwysigrwydd y symudiadau hyn.
Cefnogwyd datblygiad Quiet Hands gan Ganolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru.
Arian o gronfa effaith Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol sydd i'w gyfrif am allu perfformio'r ddrama yn Adeilad y Pierhead.
Cynhelir Quiet Hands yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Mercher, 10 Hydref am 4.30pm. Mae rhywfaint o docynnau rhad ac am ddim ar gael ymlaen llaw yn unig ar gyfer y perfformiad arbennig fydd hefyd yn cynnwys derbyniad a sesiwn holi ac ateb gyda'r awdur, y cyfarwyddwr a'r cast.