Gwella bywydau plant sydd ag anhwylderau’r ymennydd
25 Medi 2018
Mae elusen o’r DU wedi creu partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd plant sydd ag anhwylderau’r ymennydd gwanychol.
Mae Cerebra, elusen genedlaethol o Gymru, yn bwriadu manteisio ar ymchwil arloesol Prifysgol Caerdydd ynglŷn â geneteg, seiciatreg, a datblygiad yr ymennydd, er mwyn chwyldroi cymorth y Trydydd Sector ar gyfer plant sy’n wynebu anawsterau dysgu a datblygu difrifol.
Grant gan Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) sy’n ariannu’r prosiect. Bydd hwn yn hybu Cerebra yn arweinydd wrth roi cefnogaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau’r ymennydd. Yn aml, mae cyflyrau seiciatrig yn cyd-fynd â’r rhain ac nid oes gofal digonol ar eu cyfer.
Nod y bartneriaeth yw datblygu mentrau eiriolaeth a chaffael er mwyn gwella gwasanaethau atal cynnar a diagnostig hanfodol i blant.
Mae Cerebra, sydd wedi'i leoli yng Nghaerfyrddin, yn gweithio gyda dros 47,000 o deuluoedd, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ledled y DU, gyda’r nod o gynnig bywyd gwell i bob teulu sy’n cynnwys plentyn â chyflwr yr ymennydd.
Mae’r elusen yn gweithio gydag anhwylderau deallusol a datblygiadol (IDDs), sy’n ei rhoi mewn sefyllfa unigryw yn y sector ymchwil elusennol. Felly, mae’r elusen yn gallu ymdrin â phlant a theuluoedd yn dda. Maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd, academyddion ac ymarferwyr er mwyn cyllido ymchwil er lles teuluoedd.
Meddai Tracy Elliott, Pennaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cerebra: “Ar sail ein gwaith gyda theuluoedd, gwyddon ni fod methu cael gwasanaethau cyhoeddus priodol, amserol yn broblem sy’n effeithio ar safon fyw llawer o deuluoedd. Dyna’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrth gysylltu â ni. Arweiniodd y problemau hyn at ddatblygiad ein ‘Offer ar gyfer Cael Gwasanaethau Cyhoeddus’.
“Mae teuluoedd yn profi heriau sylweddol o ran cael gwasanaethau amserol a phriodol ar gyfer eu plant. Nod ein prosiect ar y cyd gyda Phrifysgol Caerdydd yw datblygu dulliau mwy effeithiol o wneud yn siŵr bod plant sydd ag IDDs yn cael defnyddio gwasanaethau anghenrheidiol yn haws, e.e. gwasanaethau seiciatreg integredig a genomig modern wedi’u teilwra yn ôl anghenion a dymuniadau’r rhieni.”
Bydd y KTP yn trawsnewid gwerth yr wybodaeth y mae rhieni’n ei chael er mwyn iddynt allu penderfynu a gweithredu dros eu plant ar sail tystiolaeth.
Mae tîm iechyd meddwl ac anhwylderau datblygiadol y bartneriaeth wedi’i leoli yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd Dr Jane Lynch o Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnig arbenigedd o ran caffael ac ymgysylltu.
Meddai’r Athro Marianne van den Bree, o Ganolfan MRC, “Rydyn ni’n gyffrous iawn am gydweithio â Cerebra. Bydd yn cynnig cyfleoedd gwych i ni helpu llawer o deuluoedd sydd â phlentyn ag anhwylderau’r ymennydd a gwneud gwahaniaeth, ar sail ein hymchwil.”
Bydd Llywodraeth Cymru ac Innovate UK yn ariannu'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), sef cynllun lle mae myfyriwr graddedig o'r brifysgol (Unigolyn Cyswllt) yn defnyddio arbenigedd academaidd i helpu sefydliad allanol.
Mae recriwtio ar gyfer Unigolyn Cyswllt dros Ymchwil Iechyd Meddwl a Datblygiad bellach ar droed. Plant ag Anhwylderau Datblygu fydd yn arwain y prosiect.
Derbynnir ceisiadau gan unigolion sydd â gradd ôl-raddedig mewn seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol. Bydd yr unigolyn hwn yn frwd dros ddiwallu anghenion teuluoedd plant sydd ag anableddau dysgu ac anhwylderau datblygu prin. Bydd y deiliad swydd yn gwerthfawrogi cefnogaeth amlasiantaeth effeithiol, yn gallu gweithio naill ai’n unigol neu gyda thimau a sefydliadau. Bydd ganddo/i sgiliau dadansoddi data da. Edrychwch ar ein tudalen cyfleoedd gwaith i gael rhagor o wybodaeth.
Am wybodaeth bellach am KTPs, cysylltwch â thîm KTP Caerdydd: ktp@caerdydd.ac.uk