7fed safle yn y Times Good University Guide 2019
24 Medi 2018
Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn y 7fed safle yn y Times Good University Guide 2019, gan gyrraedd safle uchaf yr Ysgol yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn ogystal â chodi o fod yn yr 8fed safle y llynedd, mae’r Ysgol wedi parhau i fod ymhlith yr 20 ysgol cerddoriaeth uchaf yn nhablau cynghrair Complete University Guide a Phrifysgolion y Guardian.
Eleni, rydym hefyd wedi dathlu llwyddiant anhygoel drwy gyflawni 98% mewn boddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, a chyfradd cyflogaeth diguro o 100% i’n graddedigion o 2017.
Mae’r llwyddiannau hyn yn dod lai na blwyddyn ar ôl i’r Ysgol Cerddoriaeth gael ei henwi’n Ysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2017.
Wrth sôn am y canlyniadau, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Kenneth Hamilton “Rwyf wrth fy modd o weld y gyfres newydd o ganlyniadau nid yn unig yn cadarnhau ein lle ymysg y deg Ysgol Cerddoriaeth uchaf yn y wlad, ond ein bod ni hefyd wedi llwyddo cael un o’r sgorau gorau am ansawdd dysgu yn y wlad."