Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn penodi Pennaeth Ysgol newydd
4 Awst 2015
Penodwyd yr Athro Stuart Allan yn Bennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol
Ymunodd yr Athro Allan â’r Brifysgol ym mis Chwefror 2014, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol. Mae’n awdur saith o lyfrau, gan gynnwys ei lyfr diweddaraf, Citizen Witnessing: Revisioning Journalism in Times of Crisis.
Mae wedi golygu un ar ddeg o gyfrolau eraill, gan gynnwys The Routledge Companion to News and Journalism, a Citizen Journalism: Global Perspectives (Cyfrolau 1 a 2). Mae sawl un o'r llyfrau hyn wedi cael eu cyfieithu i sawl iaith.
"Efallai bod disgwyl i mi ddweud ei bod yn anrhydedd bod yn Bennaeth yr Ysgol, ond mae'n gwbl wir," dywedodd yr Athro Allan.
"Mae cymuned yr Ysgol yn cynnwys pobl sy’n teimlo’n angerddol dros yr hyn maent yn ei wneud, ac sydd wedi ymrwymo i drosglwyddo eu gwybodaeth a'u profiad i fyfyrwyr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i wella enw da yr Ysgol a chryfhau ei safle fel gyrrwr sy’n llunio cyfeiriad ein maes yn y dyfodol."
Yn ddiweddar, nododd The Guardian mai dyma’r Ysgol Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus orau yn y DU, a rhoddodd y Llywodraeth yr Ysgol yn 2il yn y DU am ansawdd ei gwaith ymchwil. Gofynnwyd i’r Athro Allan beth oedd yn gwneud yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn ysgol mor llwyddiannus.
"Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ragoriaeth ym mhopeth a wna, sy'n hawdd ei ddweud, ond bob amser yn heriol ei gyflawni," meddai.
"Rydym yn ymdrechu i fod yn arloesol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu ymchwil o'r radd flaenaf a darpariaeth addysgol sy’n effro i flaenoriaethau proffesiynol mewn cyd-destunau go iawn sy’n esblygu."
Pan ofynnwyd iddo sut mae’r maes pwnc yn datblygu, pwysleisiodd bwysigrwydd bod yn flaengar.
"Mae newyddiaduraeth, ynghyd â’r diwydiannau creadigol a diwylliannol yn ehangach, yn mynd drwy gyfnod o newidiadau dwys sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer ein cymdeithas.
"Mae'n amser diddorol iawn i fod yn edrych ar y materion a godir yn sgîl y newidiadau hyn, yn arbennig o ran effaith y rhyngrwyd a thechnolegau digidol cysylltiedig. Mae'n gyfnod o gryn ansicrwydd, ond hefyd o gyfleoedd rhagorol i ailddychmygu sefydliadau ein cyfryngau."
Daeth yr Athro Allan yn Bennaeth yr Ysgol ar 1 Awst, ac mae’r Pennaeth blenorol, Simon Cottle, yn parhau fel Athro y Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Ysgol.