Myfyriwr o Wlad Thai yn pwysleisio manteision dysgu Cymraeg
4 Awst 2015
Wrth
lansio cynllun y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'u
hastudiaethau, cafwyd hanes myfyriwr ysbrydoledig o Wlad Thai sy'n rhugl yn yr
iaith erbyn hyn
Aeth Supachai Chuenjitwongsa, sydd newydd gwblhau PhD mewn addysg ddeintyddol,
ati i ddysgu Cymraeg yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion y Brifysgol.
Rhoddodd anerchiad rhugl yn Gymraeg wrth i Brif Weinidog Cymru lansio cynllun Cymraeg i Bawb ym Mhafiliwn y Brifysgol yn yr Eisteddfod.
Dywedodd Supachai iddo ddechrau dysgu Cymraeg yn 2011 am ei fod eisiau deall y geiriau Cymraeg ar arwyddion stryd, ond buan iawn y sylweddolodd fod sawl mantais arall.
"Deall diwylliant a'r iaith leol yw'r nod. Mae wedi fy helpu i integreiddio i'r gymuned leol hefyd," meddai Supachai.
"Rydw i wedi gwneud ffrindiau drwy'r cwrs. Rydw i'n adnabod mwy o bobl ac yn deall beth sy'n digwydd yng Nghymru o ran ei hanes a pham mae pobl yn meddwl neu'n gwneud rhywbeth mewn ffordd benodol.
"Mae wedi fy helpu i ddeall fod Cymru'n wlad ar wahân."
Mae ei Gymraeg mor dda erbyn hyn fel iddo allu siarad yn lansiad Cymraeg i Bawb o flaen y Prif Weinidog.
Hwn oedd y tro cyntaf iddo annerch cynulleidfa gyhoeddus yn Gymraeg, ond dywedodd ei fod wedi mwynhau'r profiad.
"Roeddwn i'n nerfus dros ben ond roeddwn yn teimlo'n falch iawn, nid yn unig ynof fi fy hun a'r iaith, ond dwi'n meddwl mai cyfleu llawer o negeseuon am bwysigrwydd dysgu Cymraeg oedd yr elfen fwyaf lwyddiannus," dywedodd.
Mae gan Supachai neges glir iawn i unrhyw un sy'n ystyried dysgu'r iaith, boed fel myfyriwr yn y Brifysgol neu fel arall.
"Rydw i'n credu y gall unrhyw un ddysgu Cymraeg a mwynhau wrth wneud hynny. Ewch amdani!" meddai.