Hwb i ymchwil alltud o Syria yng Nghaerdydd
21 Medi 2018
Mae ymchwilydd o Syria, a gafodd ei alltudio i Dwrci, wedi cael profiad gwerthfawr o weithio yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, yn rhan o gynllun ar gyfer academyddion ‘agored i niwed’.
Yn 2014, aeth Ziad Alibrahim ar ffo rhag y Rhyfel Cartref yn Syria.
Gwaedu yw maes ymchwil Ziad, sydd wedi treulio’r haf yn labordy’r Athro Val O’Donnell yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau.
Yn ystod ei wyth wythnos gyda’r Brifysgol, aeth ar leoliadau yn labordy ceulo Ysbyty Athrofaol Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru, Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cododd y cyfle trwy raglen y Cyngor ar gyfer Academyddion Agored i Niwed (CARA), sy’n cefnogi academyddion wedi’u halltudio neu sydd mewn perygl.
Mae profiadau Ziad yn y DU wedi ei alluogi i gynhyrchu syniadau ymchwil newydd, datblygu cysylltiadau newydd a defnyddio lab am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn.
Mae Ziad bellach yn cynllunio i ddechrau PhD yn Nhwrci ond mae’n gobeithio dychwelyd i Syria i addysgu a helpu eraill yn y pen draw.
Meddai: “Roedd fy ymweliad yn ddefnyddiol. Helpodd y darlithoedd i mi ddiweddaru fy ngwybodaeth am y maes a gweld ymchwil newydd.
CARA yw disgynnydd uniongyrchol y Cyngor Cymorth i Academyddion a sefydlwyd gan William Beveridge, cyfarwyddwr Ysgol Economeg Llundain, ym 1933 er mwyn helpu academyddion oedd yn cael eu herlid gan y Natsïaid.
Mae gan yr Athro O’Donnell ddiddordeb personol yng ngwaith CARA, gan ei bod yn nabod Gustav Born, mab ffisegydd ac enillydd gwobr Nobel o’r Almaen, a aeth ar ffo rhag Hitler.
Symudodd y teulu i’r DU, a Gustav ifanc yn eu plith. Yn y pen draw, daeth Gus yn fiolegydd platennau o fri ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn ymchwil haematoleg tan ei farwolaeth yn ei nawdegau hwyr yn 2018.
Ysgogodd ei stori i’r Athro O’Donnell gymryd rhan mewn gwaith dyngarol CARA.
Meddai’r Athro O’Donnell, oedd yn nabod Gustav drwy ddiddordebau ymchwil cyffredin: “Dywedodd Gus wrtha i’n aml ei fod yn ddiolchgar iawn i bobl y DU a groesawodd ei deulu’n gynnes; fe wnaeth ei stori fy ysbrydoli.
“Braint oedd cynnwys Ziad yn y grŵp. Dw i wrth fy modd bod yr ymweliad hwn wedi rhoi cysylltiadau fydd yn parhau ar ôl iddo ddychwelyd i Dwrci.”
Meddai Kate Robertson, o CARA: “Mae haelioni academyddion y DU a’r undod maen nhw’n dangos tuag at gydweithwyr eraill y mae eu bydoedd wedi chwalu yn fy synnu bob tro.
“Nid yw Val yn eithriad ac mae hi wedi mynd ati i greu cysylltiad gyda Ziad a’i gefnogi drwy gydol ei amser gyda’i thîm yng Nghaerdydd.”
Mae llawer mwy o academyddion o Syria sy’n chwilio am gyfleoedd tebyg ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.