Bysedd ar eich botymau, Ysgolion Cymraeg yn derbyn yr her!
21 Medi 2018
Mae gwyddonwyr ifanc o Gymru wedi bod yn cystadlu yng nghwis blynyddol Her y Gwyddorau Bywyd sy’n cael ei gynnal gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r cwis ar ei newydd wedd ac yn cael ei ddarlledu ledled Cymru.
Cystadleuaeth rhwng ysgolion ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 yw’r Her Gwyddorau Bywyd. Fe’i dylunnir a’i chyflwyno gan fyfyrwyr doethurol, myfyrwyr meddygol, gwyddonwyr, ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn yr Ysgol Meddygaeth.
Crëwyd y cwis hwyl, rhyngweithiol, a heriol i rannu brwdfrydedd dros geisio deall y byd naturiol ac ysbrydoli disgyblion i ystyried posibiliadau helaeth gyrfaoedd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth.
Ym mis Chwefror, cymerodd bron i 400 o ddisgyblion o 42 o ysgolion ran yn rowndiau cychwynnol y gystadleuaeth, sy’n digwydd ar-lein. Cynhelir y cwis ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg mewn cystadlaethau cyfochrog. Mae pob tîm yn cynnwys pedwar aelod sydd â diddordeb mewn mathemateg, gwyddoniaeth, a’r byd o’u cwmpas. Roedd yr wyth ysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg a wnaeth sgorio uchaf yn cymryd rhan yn y rowndiau gogynderfynol a chynderfynol ar ddechrau’r haf mewn ysgolion ar draws Cymru.
Am y tro cyntaf ers 6 blynedd o gynnal y cwis, fe’i cynhaliwyd ym mhrif ddarlithfa drawiadol Lolfa Addysg Ysbyty’r Mynydd Bychan a’i ddarlledu’n fyw drwy ddolen ledled Cymru i’r holl ysgolion oedd yn cystadlu a theuluoedd y timau a gymerodd ran.
Y rhai oedd yn cystadlu am deitl Her y Gwyddorau Bywyd 2018 oedd St Cyres, Penarth v Ysgol Clywedog, Wrexham (fersiwn Saesneg) ac Ysgol Glantaf, Caerdydd v Ysgol Calon Cymru, Llanfair-ym-Muallt (fersiwn Gymraeg). Dyma’r tro cyntaf i’r pedwar ysgol gyrraedd y rownd derfynol, ac roedd y ddwy rownd derfynol yn gystadlaethau agos iawn.
Ar ôl 7 rownd o gystadlu brwd, St Cyres ac Ysgol Glantaf oedd yr enillwyr terfynol ar y diwedd. Cyflwynwyd tlws a siec o £150 i’r ddwy ysgol i’w wario ar wyddoniaeth yn yr ysgol. Diolch yn fawr i noddwyr y rhodd - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) Cymru.
Dywedodd Nicholas Alford, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfadran Gwyddoniaeth St Cyres ac un sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yng ngweithgareddau Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yr Ysgol Meddygaeth;
“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfleoedd rydych chi’n eu darparu ar gyfer ein myfyrwyr. Mae’r LSC wedi creu llawer o gyffro o amgylch yr ysgol wrth i ni symud ymlaen i’r rownd derfynol. Mae Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw wedi ysbrydoli ac egino llawer o yrfaoedd mewn ymchwil a meddygaeth ac mae’r wythnosau profiad gwaith rydych yn eu cynnig yn anhygoel o werthfawr; gan roi hwb enfawr i geisiadau prifysgol ein myfyrwyr. Diolch.”