Y Porth Cymunedol a Choleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn lansio'r Diwrnod Ymwybyddiaeth Poen cyntaf yn Grangetown
20 Medi 2018
Roedd y Porth Cymunedol yn llawn cyffro i gael gweithio gyda Richard Day a Graeme Paul Taylor o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd i lansio’r Diwrnod Ymwybyddiaeth Poen cyntaf ym Mhafiliwn Grange ddydd Gwener 14 Medi.
Roedd y diwrnod, oedd yn gysylltiedig â mis rhyngwladol ymwybyddiaeth poen, yn ddigwyddiad galw heibio oedd yn caniatáu i breswylwyr lleol ddod i siarad â staff proffesiynol a myfyrwyr Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol am boen parhaus a dysgu am adnoddau i helpu i reoli poen.
Roedd sesiynau'r dydd yn cynnwys: "Beth yw poen?" Sesiwn chwalu mythau 'Caru gweithgaredd/Casáu ymarfer corff?' a gweithdy Celf am hwyl. Roedd y diwrnod yn gyfle hefyd i drigolion lleol rannu syniadau ar beth fyddai'n eu helpu i reoli eu poen ar lefel leol.
Dywedodd Richard Day o Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd:
"Roedd y Diwrnod Ymwybyddiaeth Poen yn ddigwyddiad difyr iawn. Roedd yn galluogi staff a myfyrwyr o'r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd a'r Ysgol Meddygaeth i ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned ynghylch materion cymhleth yn ymwneud â phoen ac sy’n effeithio ar fyw gyda phoen parhaus. Er bod y glaw o bosib wedi cadw pobl draw, daeth nifer o bobl o’r gymuned yno gyda'u profiadau a'u meddyliau eu hunain gan gynnig golwg a syniadau ardderchog ar sut y gallai'r Brifysgol weithio'n agosach gyda chymunedau gwahanol i gefnogi unigolion."
Daeth trigolion Grangetown i rannu eu profiadau personol gan gynnig cyngor ac adnoddau i'w gilydd. Gyda chyfarwyddebau diweddar gan y llywodraeth yn anelu at greu pwyslais ar gefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, mae digwyddiadau cymunedol, rhannu adnoddau ar-lein ac arwyddo at y cymorth sydd eisoes ar gael yn ogystal â chanfod beth mae pobl yn teimlo sydd ei angen ar y gymuned yn mynd yn bell i hwyluso'r cyfeiriadau hyn at y dyfodol.
Dywedodd aelodau o'r gymuned oedd yn bresennol eu bod wedi mwynhau'r diwrnod, gyda'r gweithdy celf yn denu'r mwynhad a'r diddordeb mwyaf ymhlith aelodau'r gymuned a’r myfyrwyr a fu'n mwynhau gweithio gyda'i gilydd.
Dywedodd Richard:
"Mae rhedeg y diwrnod hwn am y tro cyntaf wedi bod yn gyfle gwych i'r tîm trefnu ddysgu cymaint mwy mewn perthynas ag ymgysylltu â'r gymuned. O wneud paneidiau o de i addurno'r ystafell a rhannu a siarad gydag aelodau o'r gymuned, roedd budd mynd at y gymuned ac ymgysylltu'n wirioneddol yn amlwg yn werth ei wneud. Fel aelodau o staff oedd yn trefnu'r digwyddiad, rydym ni hefyd wedi dysgu llawer, a hoffem rannu ein profiad â staff eraill a bwriadwn drefnu cyfleoedd yn y dyfodol i ddod â chymunedau a myfyrwyr o raglenni gofal iechyd at ei gilydd i drefnu diwrnodau a digwyddiadau eraill."