Straeon Gofal yn ennill gwobr y Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol
20 Medi 2018
Mae cyfrol yn edrych ar y rhywiaeth a'r rhagfarn dosbarth mae gweithwyr gofal cartref yn eu hwynebu o ddydd i ddydd wedi ennill ail wobr Peter Birks am Ysgolheictod Cyfreithiol Rhagorol gan y Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol.
Dr Lydia Hayes yw'r academydd cyntaf o Gaerdydd i ennill gwobr gan y Gymdeithas. Fe’i dyfarnwyd iddi am ei chyfrol, Stories of Care: A Labour of Law (Palgrave, 2017). Cyflwynwyd y wobr gan y cyn-farnwr Uchel Lys y Fonesig Linda Dobbs ar 5 Medi 2018 yng nghinio blynyddol y Gymdeithas yn y Deml Fewnol yn Llundain.
Mae cyfrol Dr Hayes yn unigryw oherwydd y ffordd arloesol mae'n cyfuno data ethnograffig gyda dadansoddi athrawiaethol yn ogystal â bod y gyfrol gyntaf i ennill gwobrau llyfrau gan ddwy gymdeithas ddysgedig academaidd y DU ym maes y gyfraith - y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol a’r Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol.
Gan fframio argyfwng gofal cymdeithasol y DU yn yr unfed ganrif ar hugain yng nghyd-destun argyfwng o safbwynt rhywedd o ran rheoleiddio byd gwaith, mae Dr Hayes yn dadlau nad oes llawer o enghreifftiau gwell o’r graddau mae gwladwriaeth y DU yn methu â pharchu menywod dosbarth gweithiol na'r ffaith bod cyflogau ac amodau gwaith swyddi gofal cartref ymhlith y gwaethaf.
Neges ganolog y llyfr yw apêl am ddealltwriaeth ehangach o safonau llafur fel rhywbeth sy'n sylfaenol i ddyfodol gofal cymdeithasol. Mae'r gwaith yn taflu goleuni ar yr hyn mae Dr Hayes yn cyfeirio ato fel 'sarhad sefydliadol' ar y gweithlu gofal cartref i ddangos sut mae'r rhesymu deallusol a'r gwerthoedd a fynegir mewn cyfraith cyflogaeth yn cyfiawnhau triniaeth wael, cyflog isel ac ansicrwydd.
Wrth siarad am y gyfrol a'i gwobr, dywedodd Dr Hayes, "Rwyf i wrth fy modd fod Stories of Care wedi ennill gwobr y Gymdeithas. Mae'n gyfrol roeddwn i wrth fy modd yn ei hysgrifennu. Mewn ysgolheictod cyfreithiol dydyn ni ddim yn aml yn sôn am agweddau artistig ysgrifennu academaidd ond roedd hon yn broses hynod o greadigol. Roeddwn i'n plethu naratifau gan weithwyr gofal, dealltwriaeth o ddamcaniaeth gymdeithasol a dadansoddiad o reolau a dyfarniadau cyfreithiol, ac roedd yn anodd cael y cyfuniad yn gywir, ond rwy'n falch i mi ddyfalbarhau."
"Bu gweithwyr gofal yn rhan o fy ymchwil oherwydd eu bod nhw nhw am gael swyddi ansawdd gwell a'r gofal gorau i bobl hŷn ac anabl. Mae ennill gwobrau am y llyfr yn helpu i godi ymwybyddiaeth fod yr hyn a elwir yn 'argyfwng gofal' yn y DU yn gynnyrch y fframwaith hawliau cyflogaeth sy'n methu â darparu'r cydraddoldeb, y sicrwydd a’r urddas sydd eu hangen ar fenywod dosbarth gweithiol. Gobeithio fydd pobl sydd â'r grym i newid pethau'n derbyn yr her o greu swyddi cynaliadwy yn y sector gofal."
Bob blwyddyn mae'r Gymdeithas yn cynnig dwy wobr am gyfrolau rhagorol a gyhoeddir gan ysgolheigion gyrfa gynnar. Enillydd y wobr gyntaf oedd Law and Revolution: Legitimacy and Constitutionalism After the Arab Spring gan Nimer Sultany.