Corff y diwydiant cynllunio trefol yn cydnabod rhagoriaeth ymchwil
17 Ionawr 2003
Cyrhaeddodd Dr Richard Gale, o’r Ysgol Daeryddiaeth a Chynllunio, a Dr Andrew Rogers, o Brifysgol Roehampton, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Syr Peter Hall ar gyfer Ymgysylltiad Ehangach.
Mae'r enwebiad yn cydnabod archwiliad unigryw Dr Gale a Dr Rogers o effaith polisi ac ymarfer cynllunio ar grwpiau ffydd yn y DU.
Traweffaith ymchwil
Mae eu hymchwil yn edrych ar effaith cynllunio ar grwpiau ffydd sydd am sefydlu lleoliadau crefyddol ar ôl mudo, ac mae’n dangos yr anawsterau y mae Mwslimiaid a Christnogion o Affrica yn eu hwynebu’n gyson. Fel arfer, mae cyfradd gwrthod caniatâd cynllunio i'r ddau grŵp hyn yn anarferol o uchel. Mae Dr Gale a Dr Rogers wedi nodi tair ffordd eang y mae cynllunio'n effeithio ar sefydlu a datblygu safleoedd crefyddol newydd:
- Fel arfer, mae rheolaeth dros leoliad cyfleusterau crefyddol yn atal ymdrechion i sefydlu safleoedd crefyddol ger cymunedau preswyl. O ganlyniad i hynny, maent yn cael eu lleoli ymhell o'u cynulleidfaoedd mewn parthau diwydiannol a chyfadeiladau manwerthu.
- Mae cynllunio'n dylanwadu ar ddyluniadau pensaernïol adeiladau crefyddol newydd, ac mae hynny'n aml yn eu rhwystro rhag cynnwys cyfeiriadau at draddodiadau pensaernïol crefyddol yn yr arddull.
- Wrth gyfyngu ar batrymau defnydd, mae cynllunio'n cyfyngu ar nodweddion defodol ac ymarferol adeiladau crefyddol, megis gosod amodau ar oriau defnydd nad ydynt yn cyd-fynd ag amserau gweddïo Mwslimiaid.
Yn ôl Dr Gale: "Mae’r ffaith fod yr anawsterau hyn yn parhau wedi golygu bod angen mwy o ymgysylltu a gweithgarwch rhwng grwpiau ffydd a'r proffesiwn cynllunio.
"Fodd bynnag, gall diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth yn y berthynas beri rhwystredigaeth. Er enghraifft, ceir diffyg ymwybyddiaeth ar ran y cynllunwyr o arferion diwylliannol, ymrwymiadau defodol ac ardaloedd preswyl y grwpiau ffydd, ac mae angen gwell dealltwriaeth ar ran y grwpiau ffydd o egwyddorion a gofynion cynllunio.
Aeth yn ei flaen: "Mae ein gwaith wedi cynnwys sefydlu'r Rhwydwaith Ffydd a Lle yn 2014, a ariannwyd gan AHRC. Drwy’r rhwydwaith hwn, rydym wedi trefnu cyfres o sgyrsiau rhwng cynllunwyr awdurdod lleol, grwpiau ffydd ac academyddion, i geisio gwella dealltwriaeth ar y cyd o sut y gall cynllunio fynd i’r afael â heriau amrywiaeth crefyddol yn fwy effeithiol."
Cyhoeddodd y rhwydwaith Hysbysiad Polisi Grwpiau Ffydd a'r System Gynllunio yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2015. Roedd yn cynnwys awgrymiadau ac egwyddorion i’w mabwysiadu gan gynllunwyr a grwpiau ffydd. Cafodd ei anfon at bob awdurdod cynllunio lleol yn Lloegr, cyn ei ymestyn i Gymru, gyda sêl bendith Archesgob Cymru. Bu Dr Gale a Dr Rogers hefyd yn cydweithio ag Ymgynghorwyr Cynllunio CAG, sy'n aelodau o rwydwaith FPN. Fe wnaethant gyflwyno cais llwyddiannus i Fwrdeistref Barking a Dagenham, Llundain er mwyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o anghenion ffydd a chynllunio'r fwrdeistref.
Mae Dr Richard Gale wedi sicrhau arian gan Gyngor Cymdeithasol ac Ymchwil Ewrop er mwyn ymestyn cyrhaeddiad ei waith yng Nghymru, er mwyn cefnogi cyfres o sgyrsiau ffydd a chynllunio yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.