Arbenigwyr entrepreneuraidd yn canolbwyntio ar ddigwyddiad masnachfreinio
20 Medi 2018
Mae digwyddiad gyda’r nos ar gyfer myfyrwyr, entrepreneuriaid a pherchnogion busnes sy’n awyddus i ehangu yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o 10fed pen-blwydd ‘Annog Menywod i Fasnachfreinio’ (EWIF).
Mae EWIF rhanbarth De-orllewin Lloegr a Chymru yn dechrau rhoi sylw i fasnachfreinio fel model busnes i’r digwyddiad min nos hwn ar 11 Hydref 2018, sy’n cael ei drefnu a’i arwain gan gwmni cyfraith fasnachol lleol Darwin Gray.
Bydd y noson yn cynnwys panel o arbenigwyr entrepreneuraidd o fasnachfraint fyd-eang Toni & Guy a chwmni llwyddiannus Mrs Bucket, fydd yn rhannu ei thaith ysbrydoledig ers dechrau fel entrepreneur ifanc.
Bydd cynrychiolwyr o Entrepreneurial Spark NatWest Cymru a Busnes Cymru ar gael hefyd i gynnig manylion am y gefnogaeth ariannol a’r mathau eraill o gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.
Dywedodd Llinos Carpenter, o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd:
“Mae dechrau masnachfraint yn gallu bod yn ddewis gyrfa wych ac mae’n cynnig nifer o’r manteision sy’n deillio o ddechrau busnes o’r newydd. Serch hynny, mae’n aml yn cael ei ddiystyru fel opsiwn gan y rhan fwyaf o bobl, heb sôn am fyfyrwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi darpar entrepreneuriaid yng Nghymru drwy gynnig y cyfle prin hwn i glywed gan gwmnïau a sefydliadau masnachfraint blaengar am ba lwybr i’w ddilyn er mwyn sefydlu eich busnes eich hun a bod yn rheolwr ar eich hun. Mae’n mynd i fod yn noson ysbrydoledig!”
Dywedodd Stephen Thompson, Cadeirydd EWIF De Orllewin Lloegr a Chymru a Phartner Rheoli yng nghangen Darwin Gray:
“Rydym wrth ein bodd gyda’r siaradwyr sydd gennym ar gyfer y digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at glywed gan y panel o arbenigwyr a’n haelodau fydd yn rhannu eu profiadau a’u cyngor. Mae ein cleientiaid yn amrywio o fusnesau newydd i fasnachfreintiau sydd wedi hen ennill eu plwyf. Felly, rydym yn gwybod bod masnachfreinio yn gallu bod yn opsiwn masnachol ardderchog i’r rheiny sydd eisiau bod yn rheolwyr arnyn nhw eu hunain. Mae’n bwysig bod y cenedlaethau iau yn cael yr arweiniad a’r gefnogaeth i ddilyn y trywydd hwn.”
Mae EWIF yn sefydliad nid-er-elw, sy’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad i fenywod sydd efallai’n ystyried prynu masnachfraint neu fasnachfreinio eu busnes.
Bydd cyflwyniadau gan yr arbenigwyr yn dechrau am 6.30pm gyda diodydd a pizza i’w ddilyn, yn ogystal â chyfleoedd pellach i ofyn cwestiynau a rhwydweithio.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a gallwch gadw lle nawr drwy Eventbrite.
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cefnogi digwyddiad ‘Adeiladu Llwyddiant’ Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN) a gynhelir drwy’r dydd yn rhan o ail raglen Menywod mewn Arloesedd Innovate UK.
Mae’r sesiynau yn cynnwys trosolwg o'r tirlun ariannu a chyllid, gan gynnwys cymorth rhanbarthol, a chyfleoedd gan Innovate UK yn y dyfodol. Bydd gweithdai ymarferol yn mynd i’r afael â rhai o’r prif anawsterau sy’n wynebu arloeswyr, megis ysgrifennu grantiau, dilysiad y farchnad a pharodrwydd buddsoddwyr.
Y digwyddiad yng Nghaerdydd yw'r cyntaf mewn cyfres o bedwar digwyddiad Adeiladu Llwyddiant KTN ar draws y DU a gynhelir hefyd yn Glasgow, Llundain a Belfast.
Mae’r digwyddiad yn agored i fenywod sydd wedi sefydlu busnesau neu fenywod sydd yng nghamau cyntaf y broses o ddatblygu busnes newydd, ac mae’n cael ei gynnal yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Llun 5 Ionawr. Mae'n dechrau am 8:30am a daw i ben am 6:30pm, gyda derbyniad gwin a chaws.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.