Rhedwyr yr hanner marathon yn gwario £2.3m yn y ddinas
24 Medi 2018
Bu rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd y llynedd yn gwario £2.3 miliwn yn ystod eu hymweliad â’r ddinas, yn ôl astudiaeth newydd.
Bu’r gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â threfnwyr y ras, Run 4 Wales, yn cymryd i ystyriaeth wariant ar eitemau fel bwyd a diod, llety, teithio, manwerthu a’r tâl am redeg y ras.
Gwariwyd ychydig dros £205,000 yng ngweddill Cymru, sy’n codi’r cyfanswm i £2.5 miliwn.
Bu’r astudiaeth, gan Dr Andrea Collins yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r Athro Max Munday yn Ysgol Fusnes Caerdydd, yn edrych nid yn unig ar yr effaith economaidd, ond hefyd ar effaith ras 2017 o ran teithio.
Roedd y gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai cludiant cyhoeddus cynharach a mwy mynych ar ddiwrnod y ras, mentrau rhannu ceir, a digon o gyfleusterau diogel i storio beiciau annog y rhedwyr i deithio mewn modd mwy cynaliadwy.
Mae Run 4 Wales yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio’r cynlluniau ar gyfer ras eleni.
Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae’n rhoi cymaint o foddhad gweld effaith gadarnhaol digwyddiad cyfranogiad torfol mwyaf Cymru ar economi’r wlad. Mae Run 4 Wales yn gorff nid-er-elw, ac mae’n buddsoddi canran fawr o’r arian a ddaw i law trwy daliadau’r ras mewn rhedeg ar lawr gwlad.
“Daw rhedwyr a chefnogwyr o bell ac agos i gael profiad o’n prifddinas ar ddiwrnod y ras, a bydd y trefnwyr yn parhau i drafod gyda darparwyr teithio lleol, gyda’r nod nid yn unig o leihau’r traffig yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ond hefyd i wella cynaliadwyedd cyffredinol y ras.
“Un o brif amcanion Run 4 Wales yw lleiafu effaith amgylcheddol ein catalog o rasys, ac rydym bellach mewn sefyllfa lawer gwell i leihau ôl-troed carbon Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.”
Dywedodd Dr Andrea Collins: “Gall sut mae ymwelwyr yn teithio i ddigwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol mawr greu gofynion sylweddol o ran adnoddau, a chael effaith fawr ar yr amgylchedd.
“Gall gynorthwyo Run 4 Wales a darparwyr cludiant cyhoeddus i gynllunio ras fwy cynaliadwy ym mhrifddinas Cymru.”
Er bod y rhedwyr wedi gwario £2.3 miliwn yng Nghaerdydd, mae’r effaith luosogi - lle mae arian sy’n cael ei wario yn rhaeadru i lawr trwy’r economi er budd i eraill - yn golygu y byddai cyfanswm yr hwb i’r economi leol gryn dipyn yn fwy na’r ffigur hwn.
Bu’r rhedwyr yn gwario fwyaf yng Nghaerdydd ei hun, ond digwyddodd peth o’r gwariant - yng nghyswllt llety a theithio er enghraifft - mewn mannau eraill yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Roedd chwarter y rhedwyr yn dod o Gaerdydd, ac ychydig dros hanner o weddill Cymru, fel bod ychydig dan chwarter yn dod o weddill y Deyrnas Unedig, yn bennaf Gorllewin Lloegr a Llundain. Roedd llai nag 1% o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Amcangyfrifir bod y rhedwyr wedi teithio 3.8 miliwn cilometr i gymryd rhan yn y ras. Bu 72% yn teithio mewn car, 11% yn cerdded a beicio, 7% yn teithio ar goets a bws mini, a dim ond 10% ddefnyddiodd gludiant cyhoeddus.
Serch hynny, dywedodd y rhedwyr y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau bws a rheilffordd petai gwasanaethau cynharach, uniongyrchol a mwy mynych, er enghraifft, ar gael ar ddiwrnod y ras.
Dywedodd rhai rhedwyr hefyd fod modd cymell pobl i feicio trwy ddarparu digon o le storio diogel i feiciau.
Meddai Dr Collins: “Gall fod yn anodd i redwyr o rai rannau o’r wlad deithio i’r digwyddiad heblaw am mewn car.
“Fodd bynnag, mae gan Gaerdydd gysylltiadau cymharol dda o ran gwasanaethau cludiant cyhoeddus.
“Byddai galluogi rhedwyr sy’n byw ar gyrion Caerdydd i ddefnyddio’r rheilffordd ar ddiwrnod y ras nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol at leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad, ond hefyd yn ymdrin â thagfeydd traffig a phroblemau parcio.
Eleni, mae’r rhedwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy i gyrraedd y digwyddiad.
Bydd cyflwyno gorsafoedd ‘OVObike’ lluosog ar draws y ddinas yn golygu bod modd i redwyr o’r ardal leol gyrraedd y ras ar feic a rennir a lleihau’r straen ar ffyrdd y ddinas.
Mae’r trefnwyr hefyd yn ceisio mwyafu effaith economaidd gadarnhaol y ras.
Seiliwyd y data ar ymatebion gan 3,292 o redwyr hanner marathon Caerdydd mewn arolwg ar-lein wedi’r ras.
Mae astudiaeth debyg yn cael ei chynnal ar gyfer hanner marathon eleni ac mae’r rhedwyr wedi derbyn arolwg i’w lenwi cyn y ras.
Prifysgol Caerdydd yw’r noddwr a enwir ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd.
Cynhelir ras eleni – sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed – ddydd Sul, 7 Hydref.