Ewch i’r prif gynnwys

Lansio archwiliad byd-eang o Carmen gan Bizet

19 Medi 2018

Geraldine Farrar as Carmen with cast, New York 1914
Geraldine Farrar fel Carmen gyda’r cast, Efrog Newydd 1914

Mae gwefan wedi'i lansio sy'n cofnodi hanes perfformio Carmen gan Bizet rhwng 1875 a 1945, yn dilyn symudiadau a thrawsnewidiadau'r opera drwy amser a gwledydd.

Caiff Carmen Aborad ei guradu gan Dr Clair Rowden o'r Ysgol Cerddoriaeth, ac mae'n edrych ar y ffyrdd mae Carmen wedi'i ffurfio gan draddodiadau perfformio, treigl amser, a ffyrdd gwahanol o adrodd straeon ledled y byd.

Mae'r safle'n cynnwys map a llinell amser, sy'n cofnodi'r ffeithiau allweddol ar gyfer cannoedd o berfformiadau rhyngwladol o Carmen.

I ategu'r rhain ceir oriel o ffotograffau a darluniau, yn dathlu hanes yr opera.

Mae'r safle'n manylu ar yr ymchwil yn y gyfrol arfaethedig Carmen Abroad (Cambridge University Press, 2020, gyda chefnogaeth Palazzetto Bru Zane, Centre de musique romantique francaise), sydd wedi'i golygu gan yr Athro Richard Langham Smith o'r Coleg Cerdd Brenhinol a Dr Clair Rowden. Bydd y testun yn archwilio sefydlu Carmen yn y repertoire operatig a'i symudiadau o gwmpas y byd tan 1945.

Mae cyfarwyddwyr opera, hyfforddwyr Ffrangeg a chyfansoddwyr hefyd wedi darparu tystebau fideo i Carmen Abroad, gan rannu'r ffyrdd mae sgôr lleisiol Urtext Carmen, a olygwyd gan yr Athro Langham Smith a Dr Rowden a'i gyhoeddi gan Edition Peters yn 2014, wedi effeithio ar eu gwaith.

Mae hyn yn cynnwys y cyfarwyddwr Annabel Arden yn trafod ei gwaith ar gynhyrchiad Gŵyl Grange o Carmen yn 2017, a'r cyfansoddwr Stephen McNeff yn trafod ei addasiad o Carmen yn 2014 ar gyfer Opera Canolbarth Cymru.

Yn ystod gwanwyn 2019, bydd Cymdeithas Operatig Prifysgol Caerdydd yn perfformio Carmen yng nghwtogiad Stephen McNeff o sgôr Edition Peters.

Dywedodd Heather Fuller, Llywydd y Gymdeithas Operatig: "Rydym ni'n wirioneddol edrych ymlaen at ein cynhyrchiad o Carmen yn y gwanwyn fydd yn creu cysylltiadau rhwng ymchwil Dr Rowden, arbenigedd Stephen McNeff a'r diwylliant o berfformio sydd yn yr adran."

For the past few years, opera research has been concerned with the way in which repertoire operas crossed national boundaries, how they were adapted to local performance traditions, and how they could speak and what they could say to audiences in a growing globalised world of operatic production with the international circulation of singers, scores and productions.

Yr Athro Clair Rowden Professor of Musicology

"Mae Carmen Abroad yn ffordd o gofnodi neu yn llythrennol fapio'r materion hyn gyda'r opera mwyaf enwog yn y repertoire heddiw o bosib, sef Carmen gan Bizet, ac mae'n unigryw yn ei ganfyddiad, ei gwmpas a'r modd mae'n canolbwyntio ar un opera eiconig dros gyfnod o 70 mlynedd. Mae Carmen Abroad yn sefyll ochr yn ochr â'n golygiad arfaethedig a sgôr Carmen Edition Peters sydd gyda'i gilydd yn cynnig golwg newydd 360° ar berfformio Carmen, o'r cyfansoddwr i'r perfformwyr, o'r sgôr i'r llwyfan, o Baris i Tokyo, Llundain i Sydney, neu Milan i Efrog Newydd."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.