Dychweliadau Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus Gwyddoniaeth mewn Iechyd
19 Medi 2018
Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus RHAD AC AM DDIM sy’n ceisio trin a thrafod meysydd sy’n peri pryder mewn gofal iechyd a chyhoeddi ymchwil newydd am faterion iechyd i'r cyhoedd.
Ynglŷn â’r gyfres o ddarlithoedd
Hon yr’r bymtheg flwyddyn ar ddeg i’r Gyfres o Ddarlithoedd hynod lwyddiannus, Gwyddoniaeth mewn Iechyd, gael ei chynnal.
Mae’n denu cynulleidfa amrywiol o unigloion sydd â diddordeb yn y pwnc, yn cynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a phobl broffesiynol.
Mae’r darlithoedd yn RHAD AC AM DDIM; does dim angen cadw lle oni bai y nodir yn wahanol yn y rhaglen.
Y rhaglen o ddarlithoedd
Dyddiad | Siaradwr | Teitl |
---|---|---|
Dydd Iau 11 Hyd 2018 | (mewn cydweithrediad â Chanolfan Biofecaneg a Biobeirianneg Arthritis Research UK, Prifysgol Caerdydd) Yr Athro Philip Conaghan, Prifysgol Leeds | Pam mae fy nghymalau’n brifo a beth alla’ i wneud am y peth? |
Dydd Iau 8 Tachwedd 2018 | Panel o siaradwyr o Bartneriaeth Genomeg Cymru a Phrosiect 100,000 Genom yng Nghymru | Mae’r Cymry’n bwriadu trawsnewid gofal cleifion gyda genomeg |
Dydd Iau 6 Rhagfyr 2018 | Dr Jonathan Tyrrell, Prifysgol Caerdydd | Ymwrthedd Gwrthfiotigau: Y Da, y Drwg a’r Hyll |
Dydd Iau 17 Ionawr 2019 | Yr Athro Denis Murphy, Prifysgol De Cymru | Cloddio a golygu genomau planhigion ac anifeiliaid i wella diogelwch bwyd byd-eang – cynnydd gwyddonol a chyfyng-gyngor moesegol |
Dydd Iau 21 Chwefror 2019 | Yr Athro Edward Bullmore, Prifysgol Caergrawnt | Y meddwl llidus: ymagwedd radical newydd at iselder |
Dydd Iau 28 Mawrth 2019 | Yr Athro June Andrews, OBE | Dementia - Canllaw Cyflym |
Cyfarwyddiadau
Cynhelir y darlithoedd yn y Ddarlithfa Cemeg Fawr, Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT.
Mae mynediad ar gael i bobl anabl a cheir parcio am ddim.
Mae’r darlithoedd yn dechrau am 7pm.
Cysylltwch
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: