Arbenigwyr Caerdydd yn cefnogi cynllun ‘Cryfder mewn Lleoedd’ gan Ymchwil ac Arloesi y DU
19 Medi 2018
Bydd yr Athro Rick Delbridge yn aelod o’r panel asesu ar gyfer Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) Ymchwil ac Arloesi y DU.
Mae’r cynllun newydd a chystadleuol yn ariannu ymchwil ac arloesedd ar sail lleoliad er mwyn hybu twf rhanbarthol.
Yr Athro Delbridge yw’r arweinydd academaidd ar gyfer Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal â bod yn ddeon Ymchwil, Arloesedd a Menter, mae’n cynnig gwybodaeth eang i’r panel o roi arloesedd ar waith ar draws disgyblaethau a sectorau yn ogystal ag arbenigedd mewn rheoli arloesedd.
Yr economydd y Fonesig Kate Barker, cyn-aelod o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, sy’n cadeirio’r panel sydd hefyd yn cynnwys Syr Peter Bazalgette, cadeirydd gweithredol ITV. Gwaith y panel yw dethol cynlluniau i’w cefnogi ar draws y DU.
Dywedodd yr Athro Delbridge: “Mae’n anrhydedd cael ymuno â phanel mor hyglod er mwyn cefnogi cynllun pwysig ac uchelgeisiol.”
Bydd y cynllun Cronfa Cryfder mewn Lleoedd yn cefnogi twf rhanbarthol cymharol a arweinir gan arloesedd. Bydd yn canfod ac yn cefnogi meysydd cryf o Ymchwil a Datblygu sy’n hyrwyddo clystyrau o fusnesau a allai arloesi neu fabwysiadu technolegau newydd. Y nod yw gwneud y clystyrau hyn yn gystadleuol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd prosiectau llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth hyblyg o ymyriadau ymchwil ac arloesedd fydd yn effeithio’n sylweddol ar dwf economaidd lleol.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd yn y Papur Gwyn am Strategaeth Ddiwydiannol, a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2017. Roedd y papur yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â gwahaniaethau rhanbarthol mawr er mwyn hyrwyddo cymunedau cyfoethog ar draws y DU.
Amlygodd y Papur Gwyn rôl bwysig gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd wrth hybu cynhyrchedd a thwf economaidd ledled rhanbarthau a chenhedloedd y DU.