Disgyblion yn cael eu hannog i ddilyn gyrfaoedd mewn seibr-ddiogelwch
19 Medi 2018
Mae disgyblion o dde Cymru yn dysgu am seibr-ddiogelwch ar gwrs undydd sydd wedi’i ddylunio gan arbenigwyr diogelwch llywodraeth y DU.
Nod y gweithgareddau ymarferol yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol ym maes seibr-ddiogelwch.
Bydd y plant 11-14 oed yn dysgu am ddatrys codau, datblygu apiau gwe a gwaith fforensig digidol.
Canolfan Seibr-Ddiogelwch Genedlaethol GCHQ (NCSC) a roddodd y cwrs CyberFirst Adventurers at ei gilydd, sy’n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 22 Medi.
Mae’n cael ei gynnal gan academyddion a myfyrwyr cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd yn unig am y tro cyntaf a chaiff ei ariannu’n rhannol gan yr NCSC a’r Sefydliad Codio.
Mae unigolion, sefydliadau a gwledydd yn wynebu bygythiad cynyddol gan droseddwyr seibr ond ceir prinder sgiliau rhyngwladol enfawr.
Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau a Thwf Seibr NCSC: “Mae CyberFirst Adventurers yn cynnig cyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd weld sut mae astudio cyfrifiadureg yn gwella eu rhagolygon gyrfa - yn enwedig gyda seibr-ddiogelwch.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc wedi defnyddio dyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we o oedran ifanc iawn ac mae’r NCSC yn ymrwymedig i’w helpu nhw i feddwl am fynd â’r wybodaeth honno sy’n bodoli eisoes i’r lefel nesaf.
“Mae’n wych gweld un o’n Canolfannau Rhagoriaeth Academaidd diweddaraf yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seibr-ddiogelwch yng Nghymru.”
Mae CyberFirst Adventurers yn rhan o raglen seibr-ddiogelwch genedlaethol llywodraeth y DU a ddatblygwyd gan NCSC.
Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd yn diweddaru opsiynau TGAU ac yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa mewn seibr-ddiogelwch.
Dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, darlithydd o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol sy’n trefnu’r digwyddiad:
“Mae’r byd yn wynebu prinder sylweddol o weithwyr proffesiynol seibr-ddiogelwch medrus ac mae disgwyl i’r prinder gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod.
“I fynd i’r afael â’r mater hwn, rydym yn ceisio ysbrydoli cynulleidfa iau yng Nghymru i ymddiddori mewn cyfrifiadureg a seibr-ddiogelwch trwy ddangos iddynt pa mor amrywiol a deniadol yw’r maes hwn.
Ceir nifer gyfyngedig o lefydd ar ôl ar y cwrs. Gall rieni/gwarcheidwaid gofrestru yma.
Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd weithdy Cyber Girls y llynedd a oedd wedi’i ddylunio i annog mwy o ferched i ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi’i chydnabod yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU fel y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil seibr-ddiogelwch gyntaf yng Nghymru.
Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn addysgu ac yn gwneud gwaith ymchwil ym maes seibr-ddiogelwch, gan gynnig rhaglenni megis BSc mewn Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg, ac MSc mewn Diogelwch a Phreifatrwydd Gwybodaeth.