Mathemategwyr yn cyfrifo’r ffordd fwya diogel adre
18 Medi 2018
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn datblygu ap sy’n tywys cerddwyr i’w cyrchfan ar hyd y llwybr mwyaf diogel yn lle’r un cyflymaf.
Mae arbenigwyr mathemateg a chyfrifiadureg wedi dyfeisio dull o sgorio diogelwch unrhyw ardal benodol gan ddefnyddio algorithmau mathemategol soffistigedig. Maen nhw’n credu y gallai’r rhain gael eu defnyddio yn rhan o ap llywio ar gyfer ffonau symudol er mwyn lleihau damweiniau ar y ffyrdd.
Bob blwyddyn, mae gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn achosi tua 1.24 miliwn o farwolaethau ar draws y byd, a dyma’r wythfed prif achos o farwolaeth yn y byd.
Yn ôl Adran Drafnidiaeth y DU, cerddwyr oedd 24% o’r holl farwolaethau ar y ffyrdd ym Mhrydain Fawr yn 2015.
Ar hyn o bryd, nid yw apiau fel Google Maps yn ystyried palmentydd a dim ond y ffordd gyflymaf i’r gyrchfan y maen nhw’n ei chynnig. Nid yw’r apiau hyn yn ystyried na nodweddion y palmentydd a’r ffyrdd, na’r peryglon sy’n gysylltiedig â nhw.
Mewn astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Accident Analysis and Prevention, mae ymchwilwyr wedi dangos sut mae system newydd ar gyfer sgorio diogelwch ardal yn gallu rhagfynegi nifer tebygol y damweiniau ar y ffyrdd yn llwyddiannus.
Mae’r algorithm cyfrifiadurol yn ystyried nifer o ffactorau, fel mathau a nifer y croesfannau, mathau o strydoedd, y posibilrwydd o gerddwyr yn croesi’n ddiofal a therfynau cyflymder mewn ardaloedd penodol.
Mae’r sgorio yn cael ei wneud yn awtomatig, yn syml gan fwydo data crai o fapiau o ardaloedd penodol. Mae’r dull o sgorio wedi cael ei brofi mewn 15 o ddinasoedd yn y DU - sef Caerfaddon, Bedford, Blackpool, Bryste, Coventry, Leeds, Caerlŷr, Lerpwl, Manceinion, Nottingham, Reading, Salford, Sheffield, Swindon a Chaer Efrog.
O’r 15 o ddinasoedd hyn, Lerpwl gafodd ei rhestru fel y ddinas â’r ffyrdd mwyaf anniogel, ond cafodd Caerfaddon ei rhestru fel yr un â’r rhai mwyaf diogel.
Mae’r ymchwilwyr yn credu y gallai’r system newydd hon fod o fudd mawr i gynllunwyr a datblygwyr trefol, yn enwedig wrth asesu sut gallai newidiadau i seilwaith dinas effeithio ar ddiogelwch ar y ffyrdd, fel neilltuo ffyrdd ar gyfer cerddwyr yn unig neu newid terfynau cyflymder.
Yn y tymor byr, mae’r tîm yn ystyried datblygu ap y gallai pobl ei ddefnyddio i ddweud wrthyn nhw pa lwybr yw’r un mwyaf diogel i’w cyrchfan.
Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Padraig Corcoran, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: “Mae Google Maps yn cael ei ddefnyddio filiynau o weithiau’r diwrnod i dywys pobl o’r un lle i’r llall, ond eto mae’n diystyru diogelwch y llwybrau mae’n eu cynnig i gerddwyr.
“Ein nod nesaf ydy trosi’r ymchwil hon yn gynnyrch y gall y cyhoedd ei ddefnyddio. Rydyn ni’n rhag-weld rhywbeth tebyg iawn i Google Maps lle gall defnyddiwr fewnbynnu eu cyrchfan ac yna ddewis llwybr sy’n defnyddio ein halgorithm i roi’r llwybr mwyaf diogel iddyn nhw yn lle’r un cyflymaf. Yn bendant, gallai hyn achub bywydau a byddai’n chwarae rhan wrth leihau lefel uchel y damweiniau yma yn y DU ac ar draws y byd.”