Eisteddfod 2018
18 Medi 2018
Daeth yr Eisteddfod i Fae Caerdydd yn 2018, a chymerodd staff o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ran yn y dathliad i rannu ymchwil y Sefydliad.
Roedd y dathliad o gelf, llenyddiaeth, cerddoriaeth ac iaith Cymru wedi’i gosod gerbron rhai o brif atyniadau Caerdydd, gyda’r ŵyl hanesyddol yn rhoi llwyfan i ddiwylliant Cymru. Cymerodd academyddion o Brifysgol Caerdydd ran yn y dathliadau i rannu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn yr brifwyl, dangosodd staff o’r sefydliad gysyniadau o ddarganfod cyffuriau drwy weithgareddau rhyngweithiol yn y babell wyddoniaeth, gan gyfathrebu â’r cyhoedd am sut y mae’r sefydliad yn defnyddio ymchwil o Brifysgol Caerdydd ac yn ei gymryd o’r labordy i’r claf.
Roedd yr Athro Simon Ward o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd ar y llwyfan ym Mae Caerdydd i hyrwyddo gweledigaeth y sefydliad, gan drosi ymchwil wyddonol yn therapïau o’r newydd.
“Braint o’r mwyaf oedd cael bod yn rhan o’r Eisteddfod, a dathlu diwylliant Cymru. Fe ges i’r cyfle i ddangos y rôl y gall ymchwil arloesol yng Nghymru ei chwarae o ran enw da Cymru ar draws y byd.
“Mae Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu gwaith ymchwil sy’n arwain y byd, gan gynnwys ym maes darganfod cyffuriau.
“Gyda phoblogaeth y byd yn cynyddu ac yn heneiddio, mae’n hanfodol ein bod yn gwella ein triniaethau ar gyfer rhai o broblemau iechyd mwyaf y byd.
“Yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, rydym ni’n defnyddio gwaith ymchwil ac yn ei gymhwyso i greu therapïau newydd, yn arbennig mewn meysydd fel canser ac iechyd meddwl.
“Roedd yr Eisteddfod yn gyfle i rannu ein gwaith drwy’r Gymraeg, a dathlu ymchwil wyddonol o Gymru ochr yn ochr ag iaith, diwylliant, cerddoriaeth a chelf eiconig Cymru,” meddai’r Athro Simon Ward.