Diwygio'r llysoedd crefyddol
31 Gorffennaf 2015
Mae ymchwilwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn galw am ddiwygio'r ddeddfwriaeth arfaethedig sy'n llywodraethu'r defnydd o'r llysoedd crefyddol yn y DU
Mewn cyhoeddiad newydd, Religion and Legal Pluralism, mae'r ymchwilwyr yn pwyso a mesur y graddau y dylai systemau cyfreithiol crefyddol gael eu caniatáu a'u cydnabod, ac yn cynnwys Bil drafft sy'n canolbwyntio ar gydsyniad, sef mater a godir yn sgîl defnyddio'r llysoedd hyn.
A yw'r defnydd o dribiwnlysoedd crefyddol yn gydsyniol ai peidio? Dyma'r mater sydd wrth wraidd y Bil drafft, sef mater y dywed yr ymchwilwyr nad ymdrinnir ag ef yn ddigonol o dan Fil cyfredol sy'n cael ei ystyried gan y Senedd.
Mae'r Bil drafft a ddatblygwyd gan yr ymchwilwyr yn dweud mai dim ond os bydd pob parti'n cydsynio y byddai gweithgarwch
tribiwnlys crefyddol yn gyfreithlon, ond byddai penderfyniadau o natur
droseddol ac sy'n ymwneud ag anghydfodau ynghylch plant bob amser yn
anghyfreithlon, waeth a yw'r partïon yn cydsynio ai peidio.
Mae hyn yn dilyn diffiniadau cyfreithiol cydsyniad o dan Ddeddf Troseddau
Rhywiol 2003.
Mae'r Bil yn
cynnig trosedd statudol o arfer neu geisio arfer swyddogaeth farnwrol neu
led-farnwrol yng nghyswllt unigolyn, heb gydsyniad yr unigolyn hwnnw.
Dywed ymchwilwyr fod hyn yn fwy cul na Bil
y Farwnes Cox
sy'n cael ei ystyried gan y Senedd, sy'n cynnig trosedd o hawlio awdurdodaeth
ar gam.
Dyluniwyd y Bil drafft i fod yn berthnasol i holl benderfyniadau llysoedd a
thribiwnlysoedd crefyddol, yn wahanol i Fil y Farwnes Cox, sy'n delio ag
anghydfodau cyflafareddu yn unig.
Mae'r llyfr a'r Bil drafft yn deillio
o ymchwil flaenorol a ariannwyd
gan AHRC a wnaed i roi sylw i
bryderon a godwyd yn sgîl darlith Archesgob Caergaint ar Gyfraith Sifil a
Chrefyddol yn 2008, a ysgogodd ddadl fywiog ynghylch y graddau y dylai cyfraith
Lloegr ddarparu ar gyfer systemau cyfreithiol crefyddol, fel cyfraith
Sharia.
Roedd prosiect cynharach y tîm yn pwyso a mesur sut mae'r gyfraith grefyddol
eisoes yn gweithio ochr yn ochr â chyfraith sifil yng nghyswllt priodas ac
ysgariad, gan archwilio gweithgarwch tri llys crefyddol yn fanwl.
Dywedodd Dr Russell Sandberg o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol
Caerdydd, a olygodd y llyfr: "Mae pryderon ynghylch
llysoedd crefyddol wedi codi fwyfwy mewn llawer o wladwriaethau Gorllewinol. Yr
enghraifft fwyaf diweddar oedd ym mis Mawrth 2015, pan soniodd Theresa May am
enghreifftiau o gyfraith Sharia yn cael eu defnyddio i wahaniaethu yn erbyn
menywod, ond dywedodd nad oeddem yn gwybod i ba raddau roedd hyn yn broblem.
"Mae hyn wedi arwain at lenyddiaeth gynyddol; ond mae llawer o'r gwaith wedi bod yn ddamcaniaethol neu'n canolbwyntio ar un grefydd yn unig. Mae ein gwaith ni yn rhoi enghreifftiau manwl o sut mae cyfreithiau crefyddol eisoes yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â nifer o fyfyrdodau damcaniaethol ar y graddau y dylid darparu ar gyfer systemau cyfreithiol crefyddol, fel cyfraith Sharia.
"Yn bwysicach byth, mae hefyd yn mynd i'r afael â diffygion y ddeddfwriaeth gyfredol sy'n cael ei hystyried gan y Senedd – yn arbennig ar y mater o gydsyniad – felly mae'n cynnig dewis amgen sy'n ysgogi rhagor o drafodaeth ar y mater cymhleth hwn.