Cyngor rhad ac am ddim yn gwrthdroi penderfyniad y Cyngor ynghylch cludiant
31 Gorffennaf 2015
Mae unigolyn anabl yn ei harddegau wedi llwyddo i wrthdroi penderfyniad a oedd yn ei hatal rhag cael cludiant am ddim i'r ysgol, o ganlyniad i gefnogaeth gyfreithiol rhad ac am ddim a gafodd gan fyfyrwyr y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd
Y llynedd, penderfynodd awdurdod lleol yn ne Lloegr roi'r gorau i ddarparu cludiant i'r ysgol ar gyfer Robyn, sy'n 15 mlwydd oed ac sydd ag oedi datblygiadol cyffredinol a nodweddion awtistig, gan fod y teulu yn byw o fewn pellter cerdded i'w hysgol.
Penderfynodd y Cyngor ei bod yn rhesymol disgwyl i rieni sydd â char gludo eu plant i'r ysgol ac nad oedd unrhyw resymau eithriadol dros wyro oddi wrth y polisi.
Er i rieni Robyn apelio ddwywaith yn erbyn y penderfyniad, fe wnaeth y Cyngor gadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol. O ganlyniad, cysylltodd y teulu â'r elusen plant rhyngwladol Cerebra am gymorth.
Cyfeiriodd Cerebra y teulu at y Prosiect Ymchwil Hawliau Cyfreithiol y mae'n ei gynnal ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Mae'r prosiect wedi'i anelu at deuluoedd sydd â phlant anabl, sydd wedi cael anhawster cael gafael ar wasanaethau fel gofal iechyd, gofal cymdeithasol neu gefnogaeth addysg.
Edrychodd y prosiect ar achos Robyn, ac esbonio bod gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu cludiant ar gyfer disgyblion 'cymwys', sy'n cynnwys plant na ellir disgwyl yn rhesymol iddynt gerdded i'r ysgol oherwydd problemau symudedd neu faterion iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â'u hanghenion addysgol arbennig neu â'u hanabledd.
Gan fod y Cyngor wedi derbyn nad oedd Robyn yn gallu cerdded a bod angen cludiant arni, roedd yn amlwg ei bod yn gymwys i hawlio cludiant i'r ysgol. Fe wnaeth y Prosiect gynghori rhieni Robyn i ofyn am adolygiad o benderfyniad yr ysgol ynghylch cludiant.
Wrth groesawu'r penderfyniad, dywedodd Alan, tad Robyn: "Roedd yn newyddion gwych. Dechreuodd y llifddorau agor ar gyfer y disgyblion eraill yr oedd eu cludiant i'r ysgol wedi'i atal, a nawr, ymddengys bod newid wedi bod yn y penderfyniadau hyn i gyd. Rwy'n hynod ddiolchgar, ac mae wedi gwneud bywyd yn llawer iawn gwell i Robyn a'n teulu."
Caiff Prosiect Ymchwil Hawliau Cyfreithiol Cerebra ei oruchwylio gan yr Athro Luke Clements o Ysgol y Gyfraith Caerdydd. Dywedodd: "Mae llawer o deuluoedd sydd â phlant anabl bellach wedi cael cymorth hanfodol o ganlyniad i'r prosiect – ac rydym yn ddiolchgar iawn i Cerebra a'n myfyrwyr am eu cefnogaeth aruthrol.
"Yn
ogystal â bod o fudd enfawr i'r teuluoedd y mae arnynt angen ein cymorth, mae'r
prosiect hefyd yn rhoi i fyfyrwyr y gyfraith brofiad ymarferol ac uniongyrchol
o weithio ar achosion go iawn, felly mae o fudd enfawr i fyfyrwyr yn ogystal
â'r gymuned ehangach."
Gall cymorth cyfreithiol fod yn gostus ac yn anodd ei geisio, ond mae'r
prosiect yn rhoi i deuluoedd fynediad am ddim at fyfyrwyr y gyfraith sy'n gallu
rhoi cyngor am hawliau a sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o'r gwasanaethau y
mae ganddynt yr hawl i'w cael.