Ceir heb yrwyr - achubiaeth neu bla?
14 Medi 2018
Ydy ceir heb yrwyr rownd y gornel nesaf, neu filltiroedd lawr yr hewl?
Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddiweddarach y mis hwn yn dod â’r amheuwyr a’r cefnogwyr at ei gilydd i archwilio’r dyfodol ar gyfer cerbydau sy’n rheoli eu hunain.
Bydd yr Athro Simon Gibson CBE, Prif Weithredwr y cwmni rheoli buddsoddiadau preifat, byd-eang, Wesley Clover, yn dadlau bod cerbydau sy’n rheoli eu hunain yn gallu newid canfyddiad o berchnogaeth ar gerbyd a bywyd modern.
A bydd Robin Gissing, Technolegydd Arloesi gyda Thîm Arloesedd Heathrow, yn egluro pam roedd awtomeiddio’n ganolog i strategaeth y maes awyr ar gyfer Terfynell 2 yn 2014.
Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, o Rwydwaith Ymchwil Dyfodol Trafnidiaeth Prifysgol Caerdydd: “Nod ein digwyddiad yw treiddio i wraidd y drafodaeth ar geir heb yrwyr.
“Mae’r datblygiadau mewn technoleg a’r newid yng nghanfyddiadau pobl yn golygu y gallai teithio o gwmpas y Deyrnas Unedig newid yn ddramatig. Bydd hynny’n effeithio ar sut rydym ni’n symud pobl, gwasanaethau a nwyddau, gan greu ecosystem symudedd newydd. Bydd y newid yn effeithio ar lawer mwy na gwneuthurwyr moduron – bydd yn rhaid i ddiwydiannau o yswiriant i ofal iechyd, ac o ynni i’r cyfryngau, ailystyried sut maent yn creu gwerth yn yr amgylchedd hwn sy’n dod i’r amlwg.
“Mae llawer o waith eisoes yn digwydd yn y Deyrnas Unedig yn y maes hwn ac mae Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Unedig yn amlinellu Symudedd yn y Dyfodol fel un o bedair thema allweddol, gyda’r nod o sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn un o arweinwyr y byd yn y maes hwn.”
Cynhelir y digwyddiad - Symudedd yn y Dyfodol: Cerbydau sy’n rheoli eu hunain – ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Oriel VJ a Darlithfa Wallace, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT ddydd Mercher 26 Medi am 5.30 pm. I gofrestru, cliciwch yma.