Enwebiad ar gyfer Gwobr Ysgrifennu Antur Ryngwladol
13 Medi 2018
Awdur sydd wedi ennill llu o wobrau’n cyrraedd y rhestr fer gyda’i nofel ddiweddaraf
Mae Tyler Keevil, sy’n darlithio ym maes Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysgrifennu Antur Wilbur Smith gyda’i bedwerydd llyfr, No Good Brother.
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Gwobr Ysgrifennu Antur Wilbur Smith ar agor i awduron o unrhyw wlad sy’n ysgrifennu yn Saesneg. Trefnir y wobr o £15,000 gan Sefydliad Wilbur a Niso Smith, ac mae’n cydnabod llyfrau sy’n mynd â’r darllenydd ar daith epig, gan groesi gorwelion newydd, yn ogystal ag ymdrin â themâu dewrder, dyfalbarhad, a’r gallu i ymdopi mewn amgylchiadau annisgwyl, ochr yn ochr â galluogi’r darllenwyr i gysylltu â realiti neu ddiwylliant gwahanol.
Cyrhaeddodd Tyler y rhestr fer o chwech ar gyfer 2018 ochr yn ochr ag awduron eraill sydd wedi ennill eu plwyf, Rory Clements; Jane Harris; Abir Mukherjee; Maggie Ritchie; a James Wilde.
Mae’r awdur a’r darlithydd, a aned yng Nghanada, wedi ennill Gwobr y Bobl ddwywaith am Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru, a hynny am Fireball a’r antur deithiol epig The Drive, ei ddwy nofel gyntaf.
Cyn hynny, enillodd Wobr Taith Ymddiriedolaeth Awduron Canada/McClelland a Stewart am Sealskin, o’i gasgliad byr cyntaf o ffuglen, Burrard Inlet.
Pan gafodd ei gyfweld yn ddiweddar ynghylch genre ysgrifennu antur, yr ysbrydoliaeth ar gyfer No Good Brother, a’i daith ei hun at fod yn awdur ac yn ddarlithydd, ychwanegodd Tyler Keevil:
“Mae’n anrhydedd fawr cael fy enwebu ymhlith y fath enwogion. Fe ges i lawer o hwyl yn y nofel hon yn cyfuno elfennau o wahanol genres, gan gynnwys naratif teithiol, drama deuluol, a straeon clasurol o’r gorllewin; yn fwy na dim, fodd bynnag, roeddwn i am fynd â’r darllenwyr ar antur fawr - ac rydw i wrth fy modd bod yr agwedd honno ar y stori wedi taro deuddeg gyda phobl.”
Yn cael ei gyhoeddi eleni gan The Borough Press a HarperCollins, mae No Good Brother yn adrodd stori’r cymeriad canolog Tim Harding, sydd wedi treulio’r tymor pysgota yng Nghanada, yn llafurio ar y dec, ac yn ennill bywoliaeth onest. Pan ddaw ei frawd iau penboeth o hyd iddo yn iard longau Vancouver, mae Tim yn ofni bod trafferthion ar y ffordd. Mae Jake yn ddi-ddal, yn freuddwydiwr, ac wedi bod yn y carchar, a nawr mae angen help arno i ad-dalu dyled i gang drwgenwog y Delaneys.
A dyna gychwyn taith epig, anrhagweladwy dros dir a môr wrth i’r brodyr deithio i ransh y Delaneys yn UDA, gyda swyddogion cyllid a thollau ar eu holau, gan wynebu stormydd annisgwyl a theimlad ym mêr eu hesgyrn bod eu lwc ar fin rhedeg allan. Ond er y gallant o bosib gael y trechaf ar y gyfraith, does dim dianc rhag ysbrydion hanes trasig eu teulu, ac nid yw’r naill na’r llall ohonynt yn barod am yr hyn fydd yn eu disgwyl ar ben y daith.
Cyhoeddir enillydd gwobr Ysgrifennu Antur Wilbur Smith 2018 mewn seremoni wobrwyo arbennig yn Stationers’ Hall, canol Llundain, ar 20 Medi.