Cyhoeddiad am gyfle i dreulio blwyddyn dramor ar gyfer y garfan newydd o ddysgwyr cyfreithiol
13 Medi 2018
O’r mis Medi hwn, bydd gan fyfyrwyr y Gyfraith o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y cyfle i ennill eu streipiau cyfreithiol yn Ewrop drwy fenter newydd gyda thair prifysgol parter.
Bydd gan fyfyrwyr newydd sy’n dilyn rhaglen y Gyfraith LLB (M100) y cyfle i gyflwyno cais am gael astudio dramor mewn sawl prifysgol letyol yn Sbaen, y Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl. Cynhelir y flwyddyn dramor yn nhrydedd flwyddyn astudiaethau’r myfyrwyr ac o ganlyniad, bydd eu rhaglen yn cael ei hymestyn i bedair blynedd yn hytrach na’r tair arferol.
Yn eu prifysgol letyol, bydd myfyrwyr yn dilyn modiwlau cyfreithiol yn Saesneg. Fodd bynnag, byddwn yn eu hannog i ddewis modiwlau iaith a/neu ddiwylliannol (lle bo’n berthnasol) er mwyn magu cymhwysedd ieithyddol sylfaenol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Bydd y cyfle cyffrous hwn ar gael fan gyntaf i’r garfan o fyfyrwyr a fydd yn ymuno â’r Ysgol ar raglen y Gyfraith LLB (M100) ym mis Medi 2018. Bydd eu blwyddyn dramor yn 2020/2021. Yn semester hydrefol eu hail flwyddyn, fe fydd cyflwyniad ffurfiol o’r rhaglen ar gyfer y myfyrwyr a bydd gwahoddiad am geisiadau.
Y tair prifysgol letyol sy’n rhan o’r fenter hyd yn hyn yw Universidad Pontificia Comillas (ICADE) (Madrid), Prifysgol Charles (Prag) a Phrifysgol Warsaw (Warsaw). Bydd y broses o ddewis pobl ar gyfer pob cyrchfan yn seiliedig ar farciau cymedr pwysol a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf.
Meddai Cyfarwyddwr y Rhaglen, yr Athro Stewart Field, “Mae hwn yn gyfle ffantastig i’n carfan newydd o fyfyrwyr y Gyfraith. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y cyfle i astudio Cyfraith Lloegr yng Nghaerdydd, a magu dealltwriaeth o’r agweddau Ewropeaidd, rhyngwladol a thrawsddiwylliannol sy’n berthnasol i’w pwnc ar ben hynny. Ac rydyn ni’n gwybod bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r aeddfedrwydd a’r ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach sy’n dod yn sgîl astudio dramor. Ar hyn o bryd mae tair prifysgol yn rhan o’r fenter ond rydyn ni’n gobeithio magu perthnasoedd gyda phrifysgolion eraill yn Ewrop er mwyn danfon ein myfyrwyr atyn nhw yn y dyfodol hefyd.”
Am wybodaeth bellach am y fenter hon, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, yr Athro Stewart Field.
Os hoffech gael gwybodaeth fanylach am y prifysgolion partner, yr Athro Jiri Priban (sy’n gyfrifol am y berthynas â Phrifysgol Charles, Prag a Phrifysgol Warsaw) a Dr Richard Caddell (sy’n gyfrifol am y berthynas gydag Universidad Pontificia Comillas, Madrid) fydd yn gallu eich helpu.