Un o raddedigion Prifysgol Caerdydd yn datblygu ap cerddoriaeth dementia
11 Medi 2018
Mae hen fam-gu â dementia'n 'dychwelyd adref i Gymru' pan mae'n defnyddio ap a ddatblygwyd gan un o raddedigion Prifysgol Caerdydd, i'w galluogi i greu cerddoriaeth.
Gadawodd Eirlys Williams, 89, Ystradgynlais ym 1950, pan oedd ond yn 19 oed, ar ôl i'w gŵr symud i weithio yng Nghaerfaddon.
Daw ei hatgofion o Gymru'n fyw wrth iddi ddefnyddio'r MindHarp™ – teclyn sy'n helpu pobl â dementia i ymgysylltu â cherddoriaeth a rhyngweithio â'r rheini o'u hamgylch.
Dyfais gan Stewart Redpath, a astudiodd Saesneg a Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a'i ffrind Mark Smulian yw'r Lydian MindHarp – teclyn sy'n gadael i'r rheini nad ydynt yn gerddorion i greu cerddoriaeth.
Pan weithiodd mab Stewart, Kieran, ar brosiect cwrs ar gyfer y Dementia Action Alliance (DAA), dechreuodd Stewart feddwl am ffyrdd y gellid defnyddio cerddoriaeth i helpu'r cyflwr.
Bu Stewart a Mark, a gollodd ei dad i dementia, yn gweithio ar y MindHarp am bron i bedair blynedd.
Aethon nhw i Ganolfan Peggy Dodd yng Nghaerfaddon – sefydliad sy'n cefnogi Eirlys Davies a phobl eraill sydd wedi colli eu cof – am saith mis ar sail wirfoddol, er mwyn datblygu'r ap gyda gofalwyr a chleientiaid.
Mae'r MindHarp, y gellir ei chwarae ar yr iPad, yn galluogi'r rheini sy'n ei ddefnyddio i wneud cerddoriaeth heb ofni 'os ydyw'n gywir neu beidio'.
Yn ôl merch Eirlys, Jen Gard: "Mae hi'n amlwg yn mwynhau defnyddio'r MindHarp, sy'n sbarduno atgofion hyfryd ar ei chyfer. Weithiau, byddwn yn sgwrsio a bydd hi'n dweud wrthyf ei bod wedi defnyddio 'peiriant' i wneud cerddoriaeth. Mae'n rhywbeth sy'n cael effaith."
Yn ôl Pete Conway, Cydlynydd Grŵp ym Mryste gyda Chymdeithas Alzheimer: "Mae defnyddio'r MindHarp yn ein grwpiau wedi arwain at ryngweithio grêt ac ysgogi sgyrsiau diddorol dros ben. Nid yw'r MindHarp yn ymwneud â cherddoriaeth yn unig, gan fod modd ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o weithgareddau ysgogol. Yn ein profiad o ddefnyddio'r MindHarp, bu'n hawdd ei ddefnyddio, heb yr angen i fod yn gerddor medrus, ac yn bennaf oll mae'n hwyl!"
Mae'r MindHarp yn cynnwys wyth botwm o liw gwahanol, â synau cerddorol sydd wedi'u cyfansoddi'n ofalus. Yn ogystal, mae'n cynnwys synau atmosfferig a chysylltiadol, megis ceffyl yn trotian neu glychau'n canu. Gellir gwasgu sawl botwm ar unwaith ac mae modd ei chwarae fel unigolyn, neu'n rhan o grŵp, gan gynnig ystod ddiderfyn o gerddoriaeth.
Yn ôl adroddiad gan y Comisiwn ar Ddementia a Cherddoriaeth, ar y cyd â'r felin drafod annibynnol, yr International Longevity Centre (ILC), mae tystiolaeth bod therapi cerddoriaeth hefyd yn helpu i ostwng symptomau dementia – megis aflonyddwch, iselder, lledrithion a bod yn ymosodol.