Gwledydd cyfoethog yn pryderu llai am ddiogelwch ynni, yn ôl astudiaeth
11 Medi 2018
Yn ôl astudiaeth newydd, mae pobl mewn gwledydd cyfoethog yn pryderu llai ynghylch eu dibynadwyedd a’u fforddiadwyedd a pha mor agored i niwed ydynt.
Mae tîm rhyngwladol o dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datgelu bod ffactorau cymdeithasol ac economaidd cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol o ran sut mae pobl ledled Ewrop yn ei deimlo am ddiogelwch eu ffynonellau ynni.
Yn gyffredinol, mae pobl o wledydd fel Sweden, Awstria a'r Swistir wedi dangos llai o bryder ynghylch diogelwch ynni, tra bod pobl Portiwgal, Sbaen, Rwsia, Ffrainc a Gwlad Belg yn fwy pryderus.
Credir y gellir cysylltu lefelau is o bryder â gwell mynediad i ynni fforddiadwy a bod hynny yn lleihau pryderon ynghylch diogelwch ynni.
Mae'r canfyddiadau newydd hyn fel petai nhw'n adlewyrchu astudiaethau blaenorol sy'n dangos bod gwledydd cyfoethog yn llai pryderus ynghylch newid yn yr hinsawdd na gwledydd tlotach.
Roedd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn Nature Energy, wedi defnyddio data o Arolwg Cymdeithasol Ewrop, sef arolwg cenedlaethol o dros 44,000 o bobl o 23 o wledydd yn Ewrop ac Israel.
Gofynnwyd i bobl i ba raddau yr oeddynt yn pryderu ynghylch pum agwedd o gyflenwad ynni – dibynadwyedd, fforddiadwy (neu beidio), agored i niwed, dibyniaeth ar fewnforion a dibyniaeth ar danwydd ffosil.
Roedd y lefel uchaf o bryder ymysg y rheini a atebodd yr arolwg o'r 23 gwlad yn ymwneud â pha mor fforddiadwy yw'r ynni, ac i ddilyn roedd dibyniaeth ar danwydd ffosil, dibyniaeth ar fewnforion, agored i niwed ac yn olaf, dibynadwyedd.
Yn y DU, roedd pobl yn poeni fwyaf am ddibynnu gormod ar fewnforion ynni, a tharfu ar gyflenwadau ynni oedd yn peri'r lleiaf o bryder.
Canfu'r ymchwilwyr na ellir esbonio lefel pryderon unigolion ar sail eu data sosio-ddemograffig yn unig, megis oed, rhywedd ac incwm yr aelwyd. Roedd hyn hefyd yn cyfateb i broblemau cenedlaethol yn eu gwledydd – er enghraifft, roedd unigolion sy'n byw mewn gwledydd â phrisiau trydan uchel ar gyfer yr aelwyd yn pryderu mwy am ba mor fforddiadwy yw'r ynni.
Yn ôl Dr Christina Demski o'r Ysgol Seicoleg, arweinydd yr ymchwil: "O ran diogelwch ynni, daeth i’r amlwg i ni bod y cyhoedd yn pryderu ynghylch y materion sydd fwyaf perthnasol i'r wlad y maent yn byw ynddi."
Yn ôl yr Athro Wouter Poortinga, cyd-awdur yr ymchwil, mae angen clir i gynnwys y cyhoedd mewn trafodaethau am sut i gynhyrchu ynni nawr ac yn y dyfodol:
"Gall y cyhoedd helpu i lunio ac adeiladu technolegau'r dyfodol sydd o les i'r amgylchedd, fel ein bod nid yn unig yn bodloni'r targedau o ran allyriadau mewn cytundebau rhyngwladol, ond hefyd yn gwneud yn siŵr bod ynni glân a fforddiadwy ar gael i bawb."
Roedd ymchwilwyr o Brifysgol Bergen, Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Perfeddwlad Norwy, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Groningen, Prifysgol Lucerne a Phrifysgol Tampere hefyd yn rhan o'r astudiaeth.