Y fenyw gyntaf i fod yn Ddeon
11 Medi 2018
Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi penodi'r fenyw gyntaf i fod yn Ddeon arni.
Bydd Rachel Ashworth, sy'n Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus, yn arwain yr Ysgol o fis Medi 2018 ymlaen, gan olynu'r Athro Martin Kitchener, sydd wedi dod i derfyn ei gyfnod o chwe blynedd wrth y llyw.
Mae'r penodiad yn adlewyrchu ymrwymiad yr Ysgol i gydraddoldeb rhwng dynion a menywod a daeth yn un o dair Ysgol Busnes yn y DU i gael Gwobr Efydd Athena Swan yn rhinwedd yr ymrwymiad hwnnw.
"Balch ac wrth fy modd"
Mae'r Athro Ashworth yn llysgennad hirdymor, a enillodd ei PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd yn 2000. Mae wedi treulio ei gyrfa yn ymchwilio i atebolrwydd, cydraddoldeb a newid sefydliadol ym maes gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ôl yr Athro Ashworth: "Ar ôl gweithio yn Ysgol Busnes Caerdydd am 23 mlynedd, rwy'n falch ac wrth fy modd yn cymryd y cam hwn i arwain yr Ysgol.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â'm cydweithwyr wrth i ni barhau i wneud gwahaniaeth drwy ddarparu gwerth cyhoeddus yn sgîl ein hymchwil, addysgu ac ymgysylltu ardderchog."
Heriau mawr
Yn 2015, Ysgol Busnes Caerdydd oedd yr un gyntaf yn y byd i osod gwerth cyhoeddus wrth wraidd ei gweithrediadau.
Cafodd yr ysgol busnes sy’n rhoi gwerth cyhoeddus ei chyflwyno gan y cyn-Ddeon, yr Athro Kitchener, ac mae hi'n ymrwymiad ar gyfer gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â datblygiad economaidd, gan gydnabod rôl busnes a rheolaeth wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr yn y gymdeithas gyfoes.
Roedd yr Athro Ashworth yn gadeirydd ar Fwrdd Rheoli Cysgodol cyntaf y sefydliad, sef mecanwaith llywodraethiant arloesol a sefydlwyd yn rhan o Werth Cyhoeddus, er mwyn ehangu cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau.
Y camau nesaf
Wrth baratoi ar gyfer y cam nesaf yn atblygiad yr Ysgol, mae'r Athro Ashworth wedi creu rolau newydd ar draws meysydd gweithgarwch allweddol yr Ysgol.
Mae'r Athro Calvin Jones yn olynu Mohamed Naim fel Dirprwy Ddeon, â chylch gorchwyl sy'n canolbwyntio ar Werth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol.
Bydd yr Athro Luigi de Luca, wrth gefnogi Ymchwil ac Arloesedd, yn ymgymryd â swydd y Deon Cyswllt ar gyfer Astudiaethau Doethurol, a’r Athro Malcom Beynon fydd y Deon Cyswllt ar gyfer Technoleg a Data.
Bydd Dr Sarah Hurlow a'r Athro Julian Gould-Williams yn cefnogi darpariaeth Dysgu ac Addysgu'r Ysgol fel Cyfarwyddwyr Rhaglenni Ôl-raddedig ac Israddedig.
Wrth sôn am y camau nesaf ar gyfer yr Ysgol, ychwanegodd yr Athro Ashworth: "Gan adeiladu ar waith Deoniaid blaenorol, fy mlaenoriaethau fydd gwella profiad myfyrwyr a staff; creu lle ar gyfer asiantaethau ac arloesedd ac, fel y fenyw gyntaf i fod yn Ddeon ar yr Ysgol, mynd ati'n weithgar i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, fel yr wyf wedi’i wneud drwy gydol fy ngyrfa."