Paula Radcliffe yn llysgennad swyddogol
30 Gorffennaf 2015
![Paula Radcliffe](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/127539/PAULA-RADCLIFFE-2.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae'r rhedwr penigamp Paula Radcliffe yn llysgennad swyddogol ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf
Mae Paula Radcliffe wedi'i henwi fel llysgennad swyddogol Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Radcliffe, y rhedwr penigamp sydd wedi ennill Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF dair gwaith, fydd y gyntaf i gael ei phenodi'n llysgennad y digwyddiad, a gynhelir ddydd Sadwrn y Pasg, 26 Mawrth 2016.
Dyma fydd yr hanner marathon mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed, a'r digwyddiad athletau mwyaf arwyddocaol i gael ei gynnal yn y wlad ers Gemau'r Gymanwlad a'r Ymerodraeth Brydeinig ym 1958.
Mae Radcliffe yn dal i fod yn un o athletwyr mwyaf adnabyddus y byd, ar ôl iddi ymddeol o'r byd rhedeg cystadleuol ym Marathon Llundain eleni. Hi sy'n dal record y byd ar gyfer marathon menywod, sef amser o 2:15:25, a enillodd ym Marathon Llundain 2003.
Enillodd Bencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF dair gwaith mewn pedair blynedd rhwng 2000 a 2003, gan gynnwys yr ail waith i'r Bencampwriaeth gael ei chynnal yn y DU, ym Mryste yn 2001.
Wrth siarad yn Sainsbury’s Anniversary Games yn Stadiwm Olympaidd Llundain, dywedodd Paula: "Mae'n ras sy'n agos iawn at fy nghalon, ac rwy'n siŵr y bydd Cymru a Chaerdydd yn lle gwych i'w chynnal.
"Gobeithio y bydd llawer o wylwyr yn dod i gefnogi, oherwydd bydd awyrgylch anhygoel yn gwneud cymaint o wahaniaeth, yn enwedig i'r athletwyr sy'n cynrychioli Prydain Fawr.
"Mae hefyd yn gyfle prin i bobl redeg ochr yn ochr â 25,000 o redwyr eraill, a chael yr un profiad a phrofi'r un emosiynau ag athletwyr elitaidd.
"Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd IAAF oedd fy nheitl mawr cyntaf, a rhoddodd hwb enfawr i'm hyder ar ôl y siom o beidio ag ennill medal yng Ngemau Olympaidd Sydney. Gallai fod yn sbardun go iawn i'n hathletwyr cyn y Gemau Olympaidd yn Rio, ac mae Mo Farrah yn edrych yn anhygoel yr haf hwn ar ôl gwneud hanner marathon yn y gwanwyn.
"Bydd ennill gartref yn rhoi cymhelliant ychwanegol i'n hathletwyr, a byddai'n braf gweld llawer o bobl yn dod i gefnogi tîm Prydain.
"Rwyf wir yn edrych ymlaen at y ras, ac yn llawn cyffro i gael bod yn rhan o ddigwyddiad mor bwysig."
Bydd y digwyddiad sydd yng Nghyfres Athletau'r Byd nodedig IAAF yn dod â dros 300 o athletwyr gorau'r byd i gwrs gwastad, cyflym ac eiconig Caerdydd, yn ogystal â chynnal ras dorfol i hyd at 25,000 o redwyr amatur o bedwar ban y byd.
Mae lleoedd ar gyfer y ras dorfol yn gwerthu'n dda, a disgwylir iddynt werthu allan cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, ddechrau 2016. Gall rhedwyr gofrestru yn www.cardiff2016.co.uk.