Ieithoedd i Bawb - Cyrsiau iaith wythnosol yn rhad ac am ddim
7 Medi 2018
Hoffech chi ddysgu iaith neu wella eich sgiliau iaith yn rhad ac am ddim, ochr yn ochr â'ch gradd?
Bydd cyrsiau wythnosol rhad ac am ddim Ieithoedd i Bawb a Chymraeg i Bawb yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar 8 Hydref, ac yn para am naw wythnos.
Mae’r rhaglen wedi cael ei sefydlu i redeg ochr yn ochr â’ch gradd, fel y gallwch ddysgu iaith o amgylch eich astudiaethau.
P’un a ydych eisiau rhoi cynnig ar iaith newydd neu wella’r sgiliau sydd gennych chi eisoes, mae gennym ni amrywiaeth o ieithoedd a lefelau i chi ddewis o’u plith. Mae amrywiaeth o opsiynau astudio ar gael hefyd, felly gallwch chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi.
Gallwch wneud cais ar SIMS rhwng 09.30 fore Llun 10 Medi a 17.00 dydd Gwener 21 Medi.
Penderfynir ar geisiadau ar sail y cyntaf i'r felin, felly peidiwch â cholli eich cyfle!
Noder: Mae Ieithoedd i Bawb ar agor i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd yn unig.