Tŷ Cerdd yn cyhoeddi eu dewisiadau ar gyfer CoDI - datblygu gyrfa cyfansoddwyr
4 Medi 2018
Mae 14 o gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o fenter Llwybrau Cyfansoddwyr CoDI newyddTŷ Cerdd, fydd yn golygu eu bod yn cael cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu gyrfa.
Daeth 65 o geisiadau i law, a dewisodd panel arbenigol gyfansoddwyr ar gyfer cyfleoedd datblygiad creadigol cyflogedig ym meysydd cerddoriaeth Siambr, Electronig a Theatr.
Bydd y cyfansoddwyr a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen Siambr, sy’n cynnwys y cyn-fyfyrwyr o’r Ysgol Gerddoriaeth Nathan Dearden, Daniel-Wyn Jones, Sarah Lianne Lewis a Lucy McPhee, yn gweithio gyda’r cyfansoddwr blaenllaw o Gymru, Lynne Plowman ac Ensemble Berkeley mewn cyfres o weithdai i greu gweithiau newydd i’w perfformio yng nghyfres cerddoriaeth siambr yr Ysgol Gerddoriaeth ym mis Ebrill 2019.
Bydd Poumpak Charuprakorn, myfyriwr PhD o’r Ysgol Gerddoriaeth, a’r cyn-fyfyriwr Richard McReynolds, yn ymuno â’r rhaglen Electronig, ac yn gweithio gyda Cherddorfa Gliniaduron Abertawe a’u cyfansoddwyr Jenn Kirby a Simon Kilshaw mewn cyfres o weithdai fydd yn cyrraedd eu penllanw mewn perfformiad cyhoeddus yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor ym mis Chwefror 2019.
Yn y rhaglen Theatr bydd y cyn-fyfyrwyr o’r Ysgol Gerddoriaeth, David John Roche ac Eloise Gynn, yn dod yn gyfansoddwr preswyl a chyfansoddwr cysgodol yn eu tro gyda chwmni theatr gymunedol Hijinx, Odyssey. Ar hyd hydref 2018 byddan nhw’n datblygu a gwireddu’r gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad Nadolig, a fydd yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Rhagfyr 2018.
Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Mae ymateb cyfansoddwyr i CoDI wedi bod yn eithriadol o frwd - ac mae nifer y ceisiadau wedi peri rhyfeddod i’r paneli. Mae’r 14 o gyfansoddwyr a ddewiswyd yn cynrychioli amrywiaeth o arddulliau a chefndiroedd, ac rydym ni’n gyffrous ynghylch cychwyn ar y tri phrosiect ym mis Medi.”
Mae Llwybrau Cyfansoddwyr CoDI yn cael ei ariannu trwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a Sefydliad PRS, y mae Tŷ Cerdd yn un o 40 Partner Datblygu Doniau sydd ganddynt ar draws y Deyrnas Unedig.