Steroidau drwy'r geg yn aneffeithiol i'r rhan fwyaf o blant â chlust ludiog
4 Medi 2018
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen yn dangos nad yw cwrs wythnos o dabledi steroid drwy'r geg yn arwain at fuddiannau mawr i'r rhan fwyaf o blant 2-8 oed sydd â chlust ludiog ac wedi colli eu clyw am o leiaf 3 mis.
Clust ludiog, a elwir hefyd yn otitis media gydag allrediad, yw'r achos mwyaf cyffredin o golli clyw mewn plant ac un o'r rhesymau mwyaf cyffredin pam fod plant yn gorfod cael llawdriniaeth (gosod gromedau). Mae'r rhan fwyaf o achosion yn gwella o fewn ychydig wythnosau neu fisoedd, ond mae rhai plant yn gallu colli eu clyw am amser hir, sy'n gallu effeithio ar eu dysgu, datblygiad iaith, hyder ac iechyd meddwl.
Astudiaeth OSTRICH yw'r treial mwyaf erioed yn defnyddio steroidau drwy'r geg gyda phlant â chlust ludiog. Dyrannwyd 398 o blant â chlust ludiog oedd wedi colli eu clyw yn y ddwy glust am o leiaf 3 mis ar hap i gymryd tabledi steroid unwaith y diwrnod am wythnos neu dabled dymi (placebo) am yr un cyfnod o amser. Cwblhaon nhw ddyddiadur symptomau am 5 wythnos ac aseswyd eu clyw 5 wythnos, 6 mis a 12 mis ar ôl cael eu derbyn i'r astudiaeth.
Canfu'r astudiaeth fod plant oedd yn cymryd y tabledi steroid yn fwy tebygol o fod â chlyw boddhaol ar ôl 5 wythnos, ond bod y gwahaniaeth yn fach, ac o bosibl yn ganfyddiad damweiniol.
Dywedodd yr Athro Nick Francis o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth gyda'r Athro Chris Butler ym Mhrifysgol Rhydychen: "Mae ein hastudiaeth yn dangos bod clust ludiog yn aml yn gwella ar ei phen ei hun - roedd gan 1 ym mhob 3 o'r plant â chlust ludiog barhaus a gymerodd y tabledi placebo glyw boddhaol erbyn 5 wythnos.
"Darganfuon ni dystiolaeth gyfyngedig o fudd o dabledi steroid i'r rhan fwyaf o blant, ond mae'n bosibl y bydd tua 1 ym mhob 14 yn gwella'n gyflymach yn dilyn cwrs wythnos o dabledi.
"Wnaethom ni ddim cynnwys plant iau (dan 2 oed) yn yr astudiaeth, felly does dim modd dweud a fyddai steroidau yn fwy neu'n llai effeithiol gyda'r plant hyn."
Cyllidwyd astudiaeth OSTRICH gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd NIHR ac fe'i harweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen.